Rhoi

Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi y byddai tîm o 20 o anturwyr yn ymgymryd â Her Tri Chopa Cymru ar 27 Mai 2023 i godi arian ar gyfer Ymgyrch Martha’s Dancing Heart. Dan arweiniad mam Martha, Michelle Graham, byddant yn fuan yn dringo tri chopa uchaf Cymru: Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan

Wrth i’r digwyddiad agosáu, mae’r tîm wedi bod yn symud yn raddol at eu targed codi arian o £5,000. Maent eisoes wedi bod yn gwerthu cacennau ar gyfer clwb nofio’r Dawn Stalkers, a nawr maen nhw’n falch iawn o’ch gwahodd i Noson Gwis yng Nghlwb Hwylio Penarth ddydd Gwener, 19 Mai. Bydd elw’r noson yn mynd tuag at gefnogi Ymgyrch Martha’s Dancing Heart.

Gobeithio’n wir y caiff y tîm dywydd braf a chynnes ar eu hantur anhygoel, a hoffem ddweud diolch o galon am gefnogi’r Gwasanaethau Cardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Cofiwch ein bod ni gyda chi bob cam o’r ffordd, yn bloeddio ein cefnogaeth wrth i chi esgyn i gopaon y mynyddoedd!

Gallwch ddarllen mwy am yr her hon yma.

Os hoffech gefnogi’r achos anhygoel hwn, cyfrannwch trwy fynd i dudalen JustGiving y tîm.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.