Rhoi

Ymwelodd Adam Harcombe, ei dad Andrew, ei fam Karen, a’i chwaer Darcey ag YAC yr wythnos hon, a chyflwyno siec am £150 i gefnogi B4 Niwroleg. Mae’n ychwanegol at y £15,906 a godwyd gan Adam, ei deulu, ei ffrindiau, ac aelodau o’i gymuned rygbi leol yn 2021. Roedd gweithgareddau codi arian yn cynnwys ‘Walk the Distance with Adam’ o Donyrefail yn Rhondda Cynon Taf i Ysbyty Rookwood, ac yna yn ôl i Donyrefail. Bydd yr arian yn mynd tuag at Apêl Prop, sy’n cefnogi prosiectau ar gyfer gwasanaethau adsefydlu yn dilyn anaf i’r ymennydd yn Ysbyty Llandochau. 

Gwnaeth Adam, a arferai fod yn glaf mewnol yn Uned Adsefydlu Arbenigol Niwrowyddorau Ysbyty Rookwood, ddioddef anafiadau ofnadwy i’r pen, sydd wedi achosi namau corfforol a gwybyddol sylweddol, gan gynnwys colli ei olwg mewn un llygad. Roedd cryfder cymeriad Adam yn amlwg o’i ddiwrnod cyntaf yn Uned Niwroadsefydlu Rookwood. Roedd yn benderfynol o gyflawni ei broses adsefydlu, cymaint fel y bu’n rhaid dweud wrtho’n aml i arafu!

Dywedodd Tîm Ffisiotherapi Rookwood “Pan ddaeth Adam atom gyntaf roedd angen cymorth arno gan ddau berson i gerdded. Oherwydd ei benderfyniad a’i ymrwymiad i’w adsefydlu gwnaeth gynnydd cyflym ac erbyn iddo fynd adref gallai gerdded gyda chymorth ffon gerdded yn unig. Gwyddom y bydd Adam yn parhau i wella oherwydd ei ffocws a’i egni i lwyddo ynghyd â chefnogaeth ei deulu a’i ffrindiau”.

Gyda chymorth ei ffrindiau agos, Andrew Wheeler, Brad Hughes, Jack Foulkes, Dylan Jones ac Anthony James yr oeddent i gyd yn awyddus i gefnogi eu ffrind, cytunodd grŵp o glybiau rygbi o Rondda Cynon Taf eu bod am wneud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth, dangos cefnogaeth a chodi rhywfaint o arian i elusen ddewisol Adam. Ymhlith y gweithgareddau codi arian roedd y daith gerdded ‘Walk the Distance’

Mae’r ymgyrch wedi codi dros £16,056, swm aruthrol sy’n cefnogi prosiectau sy’n cynnwys, technoleg cyfathrebu ar lechen a ysgogir gan y llygaid, therapi cerdd a chalonnau siarad i deuluoedd, i recordio negeseuon calonogol i’w hanwyliaid wrando arnynt, tra byddant yn yr ysbyty.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.