Rhoi

Bydd David Boyce yn cymryd rhan yn nigwyddiad 5k y GIG – Eich Ffordd Chi ddydd Sul, 31 Gorffennaf i godi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Yn ôl yn 2017, roedd mab David, Tom, yn ddifrifol wael gyda niwmonia ac yn ymladd am ei fywyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Gwnaeth yr haint effeithio cymaint ar ei galon a’i ysgyfaint fel y dywedwyd wrth ei deulu i ddisgwyl y gwaethaf.

Roedd Tom yn rhy sâl ar gyfer gofal confensiynol, felly gwnaeth y meddygon ymgynghorol droi at y therapi datblygedig a gynigiwyd gan y tîm ECMO yn Ysbyty St Thomas yn Llundain. Mae’r peiriant ocsigenu drwy bilen allgorfforol (ECMO) yn gweithredu fel ysgyfaint artiffisial neu beiriant y galon i gleifion sydd â thrafferthion anadlu difrifol neu fethiant difrifol ar y galon. Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r gwaed ‘osgoi’r’ galon a’r ysgyfaint, gan ganiatáu iddynt orffwys a gwella.

Meddai David: ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn nigwyddiad ‘5k y GIG – Eich Ffordd Chi’ ddydd Sul 31 Gorffennaf 2022. Byddaf yn cerdded y 5K ac yn gobeithio cwrdd â chyfranogwyr eraill a gwneud rhai ffrindiau newydd yn y digwyddiad cymunedol hwn.

Rwy’n gyn-ddisgybl balch o Ysgol yr Esgob Llandaf, sydd i lawr y ffordd, ac wedi treulio sawl prynhawn yn chwarae rygbi ysgol yng nghaeau Pontcanna, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad hwn er mwyn hel atgofion hefyd.’

Hoffem ddweud pob lwc wrth David ar ei daith 5k, allwn ni ddim aros i’ch gweld chi yno! I ddangos eich cefnogaeth drwy wneud cyfraniad, ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/David-Boyce5

Os hoffech chi gefnogi eich ysbyty lleol, gallwch gofrestru ar gyfer digwyddiad 5k y GIG – Eich Ffordd Chi trwy fynd i https://healthcharity.wales/events/nhs-5k-do-it-your-way/ neu ddod draw i Gaeau Pontcanna cyn 10am ddydd Sul 31 Gorffennaf, gan y byddwch yn gallu cofrestru ar y diwrnod hefyd.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.