Rhoi

Penderfynodd Ellie Lewis, sy’n 10 oed, y byddai’n ymgymryd â blwyddyn o waith codi arian ar gyfer yr Apêl Better Life. Mae gan dad Ellie ffeibrosis systig ac mae’n derbyn triniaeth yn y ganolfan yn Llandochau. Mae Ellie wedi dringo Pen y Fan bob mis ers chwe mis, mae wedi dringo’r Wyddfa ac yn bwriadu cwblhau dringfa hyfforddiant yr SAS o’r enw’r ‘Fan Dance’. Mae ei stori wedi ymddangos ar S4C, Wales Online ac yn y South Wales Guardian.

Mae campfa wedi agor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau i helpu’r rhai sy’n cael triniaeth ar gyfer canser y fron i deimlo’n fwy heini, yn gryfach ac i wella eu hyder. Gwnaeth Irene Hicks godi arian ar gyfer Apêl Canolfan y Fron i ddatblygu’r cyfleuster er cof am ei thri mab – rhoddwyd yr enw ‘The McCarthy Suite’ i’r gampfa er cof amdanynt. Adroddwyd ei stori ar newyddion ITV Cymru, yn ystod rhaglen y dydd a chyda’r nos.

Diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr gwych o Lloyds Banking Group wnaeth ymweld ag Ein Perllan i wirfoddoli. Gwnaethant helpu i gynnal ein coed afalau drwy balu a chlirio’r llystyfiant o amgylch gwaelod bob coeden, i alluogi pob coeden i ffynnu.

Dywedodd James Bell o Lloyds Banking Group fod pob aelod o’i dîm wedi mwynhau gwirfoddoli yn Ein Perllan yn fawr iawn, a methu aros i ddychwelyd yn fuan.

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth anhygoel oherwydd ni allem barhau â’n gwaith yn Ein Perllan hebddynt.

Diolch yn fawr iawn i Dominic-Jake Denton a’i ffrindiau yn Ysgol Glan Morfa am eu rhodd garedig o £800 i Ganolfan Arennau’r Plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Yn ddiweddar gwnaeth Dominic dderbyn aren newydd ac mae ei ffrindiau, eu teuluoedd a chontractwyr yr ysgol wedi bod yn brysur yn codi arian i roi rhywbeth yn ôl i’r uned a wnaeth roi triniaeth iddo.

Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod Nationwide Caerdydd wedi dewis yr Elusen Iechyd fel eu Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2019. Mae’r digwyddiad cyntaf yn dechrau ddydd Llun 8 Gorffennaf gydag aelodau staff yn seiclo’r pellter o John O’Groats i Land’ s End ar feiciau sefydlog.

Diolch o galon i Rachel Ford, Cynrychiolydd Cwsmeriaid ar gyfer enwebu’r elusen. Mae Rachel yn y llun gyda Scott Lewis, Rheolwr Cangen Cynorthwyol.

Rydym yn hynod falch o’r 15 aelod o staff ac aelodau’r teulu sydd wedi cwblhau Her y Tri Chopa y penwythnos diwethaf i godi arian ar gyfer yr Elusen Iechyd.

Roedd yn ddiwrnod anodd ac nid oedd y tywydd yn garedig iawn, ond gwnaethant ddyfalbarhau a cherdded dros 17 milltir a dringo 7657 troedfedd o fewn 21 awr sy’n rhagorol. Gwnaethant ddechrau yn yr Wyddfa, gan anelu at Gadair Idris a gorffen ym Mhen y Fan. Roedd cyfeillgarwch a chefnogaeth wych o fewn y grŵp ac maent wedi gwneud ffrindiau am oes.

Diolch yn fawr iawn i Gangen UNSAIN Caerdydd a’r Fro am gefnogi’r digwyddiad, ac i Asda, Pentwyn a Tesco, Croes Cwrlwys am roi dŵr, bananas, diodydd egni, losin a llawer o bethau eraill i gadw’r cerddwyr i fynd. Hefyd, diolch i Ysgol St Cyres ym Mhenarth am adael i ni ddefnyddio’r bysiau mini am ddim.

Cododd y digwyddiad dros £5,600 a fydd yn cefnogi Ein Perllan yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yr Uned Gofal Critigol yn YAC, y Clinig Parkinson, Ward A2, B2 a C4 Niwro.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.