Cwblhaodd Daniel Scarr, ynghyd â’i frawd Elliott Scarr, Hanner Marathon Caerdydd 2022 ar 2 Hydref. Gwnaethant godi swm anhygoel o £4,000 i gefnogi Adran Hematoleg Ysbyty Athrofaol Cymru.
Ddwy flynedd yn ôl, cafodd Daniel ei dderbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru a chafodd ddiagnosis o ganser y gwaed a elwir yn Lewcemia Lymffoblastig Acíwt. Ar ôl cemotherapi, ymbelydredd corff cyfan a thrawsblaniad bôn-gelloedd, does dim canser gan Daniel mwyach diolch i dîm anhygoel yr Adran Hematoleg.
Dywedodd Daniel: “Roeddwn i’n un o’r rhai lwcus, nid pawb sy’n goroesi. Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r tîm gwych yn Ysbyty Athrofaol Cymru, fy rhoddwr bôn-gelloedd a theulu a ffrindiau am achub fy mywyd.”
“Mae fy ngwraig wedi cael ei gŵr yn ôl ac mae gan fy mhlentyn 7 oed ei dad.”
I ddangos ei werthfawrogiad o’r gofal a gafodd, penderfynodd Daniel ymgymryd â her Hanner Marathon Caerdydd 2022 ynghyd â’i frawd Elliott, gan ei gwblhau mewn amser llawer cyflymach na’r disgwyl. Am gyflawniad anhygoel, cyfnod byr yn unig ers ei driniaethau. Mae Daniel hefyd wedi bod yn annog ffrindiau a theulu i ddod yn rhoddwyr bôn-gelloedd gwaed, ac achub bywydau pobl sy’n dioddef o Lewcemia a chanserau gwaed eraill.
Hoffem longyfarch Daniel ac Elliott a diolch yn fawr iawn iddynt am eu hymroddiad i gefnogi’r Gronfa Hematoleg yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Hoffem hefyd ddiolch i Wales & West Utilities a roddodd gyfraniad caredig o £300.
I ddarganfod mwy am yr Adran Hematoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/laboratory-medicine/haematology/
Os hoffech chi gyfrannu at y Gronfa Hematoleg, ewch i: https://healthcharity.wales/donate/