Rhoi

Bydd Catherine Longree yn cymryd rhan yn Naid Fawr y GIG drwy blymio o’r awyr ar 15 Mai i godi arian ar gyfer y Tîm Diabetes Pediatrig. Cafodd mab Catherine, David, ddiagnosis o Ddiabetes ddwy flynedd yn ôl, ac mae wedi bod yn derbyn gofal a thriniaeth ragorol gan y Tîm ers hynny.

Oherwydd COVID-19 a methu â chodi arian yn ystod 18 mis diwethaf, nid yw’r Tîm Diabetes Pediatrig wedi gallu trefnu gweithgareddau fel padlfyrddio, tag laser a diwrnodau o hwyl eraill i’r plant dan eu gofal. Bydd yr arian a godir gan Catherine yn cefnogi’r tîm yn uniongyrchol i drefnu diwrnodau gweithgareddau yn y dyfodol.

Dywedodd Catherine: ‘Dyma fy ffordd i o allu helpu, oherwydd dros y 2 flynedd ddiwethaf, ar ôl diagnosis David, maen nhw i gyd wedi bod yn anhygoel, nid yn unig i David ond i ni hefyd.’

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch yn fawr iawn i Catherine am ei chyfraniad anhygoel i gefnogi’r Tîm Diabetes Pediatrig!

I gefnogi antur llawn adrenalin Catherine, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/Catherine-Longree3

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.