Rhoi

Diolch i David Beaken o Gymdeithas Asiantau Tai Brighton a Hove (BHEAA) am drefnu Diwrnod Golff Elusennol yng Nghlwb Golff West Hove er cof am Toby Carrington, ffrind annwyl a chydweithiwr a fu farw’n gynharach eleni.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, gyda ffrindiau agos Toby o’r diwydiant yn bresennol, ac fe godwyd swm anhygoel o £1,648.43! Defnyddir yr arian i gefnogi’r Gronfa Gardioleg yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Diolch unwaith eto i aelodau tîm BHEAA am eu cefnogaeth. Mae rhoi arian tuag at y gronfa Gardioleg yn golygu eu bod yn helpu i ddarparu gwell offer, ymchwil, triniaeth a gofal i gleifion, sydd y tu hwnt i gyllid y GIG.

Os oes gennych ddiddordeb mewn codi arian ar ein cyfer, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.