Rhoi

Cafodd Calon Chorus ei sefydlu gan Forget-me-not Chorus yn 2022 mewn partneriaeth â Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, sy’n cael ei chynnal gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rhoddodd y côr cymunedol gyfle i bobl sydd wedi caru a cholli rhywun â dementia, ac sy’n deall yr heriau o fyw ochr yn ochr â’r cyflwr, i ddod o hyd i gefnogaeth a chyfeillgarwch.

Gall profedigaeth effeithio ar deulu a ffrindiau yn emosiynol, yn gorfforol, yn ogystal ag effeithio ar les meddyliol; dim ond y rhai sydd wedi gofalu am rywun agos â dementia sy’n gallu deall mewn gwirionedd.

Creodd Calon Chorus gymuned o gefnogaeth i bobl sy’n rhannu’r un profiad, gan roi cyfle iddynt ddod o hyd i gwmni a chyfeillgarwch gan y rhai mewn amgylchiadau tebyg. Roedd mynychu’r côr yn wythnosol yn brofiad hapus, gan godi calonnau trwy bŵer y canu, a lleihau teimladau o ynysigrwydd a all ddod yn dilyn profedigaeth.

“Mae Calon Chorus wedi adfywio fy nghariad at ganu. Mae’r gymuned wedi fy helpu’n aruthrol mewn ffordd wahanol i unrhyw beth arall. Mae’n deimlad da gallu cefnogi pobl eraill ac elwa o’u cefnogaeth.”

Rhoddodd Loteri’r Staff gyllid i Calon Chorus er mwyn cynorthwyo gyda chostau cynnal y sesiynau wythnosol. Gyda Chyllid Loteri’r Staff, llwyddodd y côr i greu cymuned o unigolion cefnogol, a ffordd i bobl sydd wedi caru a cholli rhywun â dementia i gysylltu, adrodd eu straeon, a gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain.

Gallwch ddarganfod mwy am sut i ymuno â Loteri’r Staff, a sut i wneud cais am arian i wella’ch adran trwy ymweld â’n gwefan.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.