Cafodd Calon Chorus ei sefydlu gan Forget-me-not Chorus yn 2022 mewn partneriaeth â Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, sy’n cael ei chynnal gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rhoddodd y côr cymunedol gyfle i bobl sydd wedi caru a cholli rhywun â dementia, ac sy’n deall yr heriau o fyw ochr yn ochr â’r cyflwr, i ddod o hyd i gefnogaeth a chyfeillgarwch.
Gall profedigaeth effeithio ar deulu a ffrindiau yn emosiynol, yn gorfforol, yn ogystal ag effeithio ar les meddyliol; dim ond y rhai sydd wedi gofalu am rywun agos â dementia sy’n gallu deall mewn gwirionedd.
Creodd Calon Chorus gymuned o gefnogaeth i bobl sy’n rhannu’r un profiad, gan roi cyfle iddynt ddod o hyd i gwmni a chyfeillgarwch gan y rhai mewn amgylchiadau tebyg. Roedd mynychu’r côr yn wythnosol yn brofiad hapus, gan godi calonnau trwy bŵer y canu, a lleihau teimladau o ynysigrwydd a all ddod yn dilyn profedigaeth.
“Mae Calon Chorus wedi adfywio fy nghariad at ganu. Mae’r gymuned wedi fy helpu’n aruthrol mewn ffordd wahanol i unrhyw beth arall. Mae’n deimlad da gallu cefnogi pobl eraill ac elwa o’u cefnogaeth.”
Gallwch ddarganfod mwy am sut i ymuno â Loteri’r Staff, a sut i wneud cais am arian i wella’ch adran trwy ymweld â’n gwefan.