Rhoi

Gyda chyllid gan NHS Charities Together, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi’r gwaith o adnewyddu gardd gaeedig ar gyfer y Gwasanaeth Maeth a Deieteg Cymunedol yng Nghanolfan Iechyd Riverside.

Roedd y gwaith adnewyddu wedi caniatáu i gyfleuster cloi beiciau newydd i staff gael ei osod, gan gefnogi storio beiciau’n ddiogel a galluogi teithio cynaliadwy i’r gwaith. Prynwyd nifer o fyrddau picnic hefyd i staff fwynhau eu cinio mewn amgylchedd awyr agored hamddenol. Yn ogystal, rhoddwyd pecyn offer gardd fel rhodd i’r gwasanaeth er mwyn eu galluogi i ofalu am y gofod awyr agored a’r planhigion yn hwylus.

Yn ystod y Pandemig COVID-19, roedd y gwaith adnewyddu wedi cynnig cyfleusterau addas i staff allu cwrdd yn ddiogel a chymryd seibiant. Mae’r ardd gaeedig yn dal i dderbyn adborth cadarnhaol gan staff ac mae’r cyfleuster cloi beiciau yn cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi’n ddyddiol.

Derbyniodd y staff hefyd nifer o sgriniau i fynd rhwng desgiau, er mwyn iddynt deimlo’n fwy diogel wrth gadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â lleihau lefel y sŵn yn yr ardal. 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.