Rhoi

Gemma Maddern yw enillydd SuperMegaDraw y Loteri i Staff ac mae’n ennill £23,000!

Mae Gemma, sy’n Therapydd Galwedigaethol yn Nhîm Adnoddau Cymunedol Caerdydd, wedi bod yn aelod ffyddlon o Loteri’r Staff ers 9 mlynedd. Cofrestrodd gyda Loteri’r Staff gan ei bod yn credu y byddai’n ffordd wych o gefnogi’r elusen, ac mae’n falch iawn bod yr aros wedi talu ar ei ganfed.

Mae hi’n bwriadu gwario’r arian ar gar trydan, gwyliau a gwaith ar y tŷ. Llongyfarchiadau Gemma! 

ENILLWYR £1,000 LOTERI STAFF MIS TACHWEDD YW:

⭐ Jasmine Chung, Therapi Lleferydd ac Iaith i Oedolion, Ysbyty Athrofaol Cymru

⭐ Fay Rose, Podiatreg, Ysbyty Athrofaol Cymru

⭐ Gilliean Mtandabari, Gofal Cymhleth a Chomisiynau, Tŷ Coetir

⭐ Maria Roberts, Tîm Diogelwch Cleifion, Tŷ Coetir Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff, gellir llenwi ffurflenni cais yma.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, a gweld pa brosiectau a gefnogwyd yn ddiweddar, ewch i; Prosiectau a Ariennir gan Loteri’r Staff | Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.