Rhoi

Ym mis Rhagfyr 2020, dathlodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro 10 mlynedd o wneud pethau’n well ar gyfer cleifion, ymwelwyr, staff a’r gymuned ehangach.

Dathlu 10 mlynedd o waith Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: 2018

Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu’r 10 mlynedd, yn edrych yn ôl ar y prif brosiectau a ariannwyd ac yn dathlu cyfraniadau’r rhoddwyr, codwyr arian, gwirfoddolwyr a’r partneriaid cymunedol yn ystod y ddegawd diwethaf. Yn anffodus, cafodd y cynlluniau hyn eu canslo oherwydd y coronafeirws. Yn lle hynny, bydd yr Elusen Iechyd yn edrych yn ôl ar sut mae’r codwyr arian, rhoddwyr, gwirfoddolwyr a’r partneriaid cymunedol wedi helpu i newid pethau er gwell dros y deng mlynedd diwethaf.

Dyma rai o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau a gynhaliwyd gan gefnogwyr a chodwyr arian yr Elusen Iechyd yn 2018.

Her Gwthio Gwely 5k Bae Caerdydd y GIG yn 70

Daeth dros 300 o bobl allan yn haul mis Mai i gymryd rhan yn y ras 5k a 10k a’r her gwthio gwely cyntaf erioed ar Forglawdd Bae Caerdydd i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70. Fe gododd y digwyddiad dros £8,500 ar gyfer Apêl Prop a chafodd sylw ar Newyddion ITV Cymru a Walesonline.

Sefydliad Asda

Yn garedig iawn, rhoddodd y staff a’r cwsmeriaid hyfryd yn Asda Lecwydd £200 i’r Uned Ddydd Haematoleg. Mae pob claf canser y gwaed yng Nghaerdydd a’r Fro – ac o ardaloedd pellach – yn cael cemotherapi yn yr Uned Ddydd.

Oherwydd natur cemotherapi, mae cleifion yn aml yn gallu bod yn yr uned drwy’r dydd, yn cael profion, yn derbyn trallwysiadau gwaed ac yn cael triniaeth. Mae pob ceiniog a roddir i’r uned yn cael ei gwario ar helpu i wneud ein cleifion yn fwy cyfforddus tra eu bod nhw yno; mae pob cyfraniad yn gwella gofal iechyd.

Yn y llun, gwelir Sian Dacey o Asda yn cyflwyno’r siec enfawr i Helen Swambo, aelod o staff.

Diwrnod y Menywod

Fe gododd Jenna Webb a’i theulu a’i ffrindiau £1,098 ar gyfer y Tîm Diabetes Paediatrig.

Pan gafodd mab Jenna a Chay, Blyth, sy’n bedwar, ddiagnosis y llynedd o ddiabetes math 1, roedd y teulu’n hynod awyddus i godi arian er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymysg plant, a rhoi arian i’r Tîm Diabetes Paediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fe drefnodd Jenna a’i ffrindiau ‘Ddiwrnod i’r Menywod’ a oedd yn llwyddiant ysgubol, gyda 190 o fenywod yn dod i Glwb Cymdeithasol a Chwaraeon Ynys y Barri. Cafodd y menywod fwffe poeth ac oer, gêm o bingo, cabaret brenhines drag a disco tan oriau man y bore.

Fe lwyddodd Jenna i gasglu 50 o wobrau raffl gan fusnesau lleol, gan gynnwys Kindle, Fitbit, Echo Dot, tocynnau i ŵyl, aelodaeth campfa a nifer o dalebau i dai bwytai a thalebau harddwch. Erbyn diwedd y noson, roeddent wedi codi swm enfawr o £1,098. Yn ogystal â hyn, trwy gysylltiadau Jenna â chwmni yswiriant ‘Legal and General’, fe roddodd y cwmni, yn hael iawn, £500 pellach er mwyn helpu i godi’r cyfanswm.

Her Len

Er mwyn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 yn 2018, fe estynnodd Len Richards, y Prif Weithredwr, wahoddiad i bobl ymuno ag ef ar Glawdd Offa, ar ddiwrnod penodol neu yn ystod yr holl daith gerdded, er mwyn hyrwyddo cydweithio, gwaith tîm a gweithgarwch corfforol trwy fodelu’r ymddygiadau sy’n hanfodol i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw.

Bu dros 100 o bobl yn cefnogi Len gyda’i her o gerdded 176 o filltiroedd ar hyd Llwybr Clawdd Offa, gan godi dros £6,000 i gael ei rhannu rhwng dwy elusen agos at ei galon – Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Improving Chances.

Roedd cyfanswm o tua 28,000 troedfedd o ddringfa ar hyd yr holl lwybr, sydd yr un peth ag uchder Everest!

Dawns Tei Glas

Cynhaliwyd y Ddawns Tei Glas gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda bron i 400 o bobl yn bresennol, yn unswydd er mwyn codi arian ar gyfer Apêl Prop, sy’n cefnogi’r rhai hynny sy’n dioddef o anafiadau i’r ymennydd yn Ysbyty Rookwood.

Roedd cyn-gleifion, staff, teuluoedd a chefnogwyr yno, yn gwisgo teis glas a ffrogiau nos glas i godi arian a dangos eu cefnogaeth i’r apêl.

Agorwyd y digwyddiad gyda chlamp o berfformiad gan Superchoir – mae Superchoir yn gôr bywiog, llawn egni a gwnaethant lwyddo i ddechrau’r noson mewn steil.

Nathan Wyburn a Wayne Courtney, dau o westeiwyr gorau Caerdydd, oedd yn cyflwyno’r noson.

Cynhaliwyd ocsiwn a raffl gyda gwobrau anhygoel wedi’u rhoi gan noddwyr hael ac, yn garedig iawn, fe gynhaliodd Craig Bellamy sesiwn holi ac ateb.

Bu’r gwesteion yn dawnsio drwy’r nos, gydag adloniant gan Pip and the Cherries, a roddodd o’u hamser am ddim, ac fe gododd y digwyddiad dros £14,000.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.