Rhoi

Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r arddangosfa Ydych chi eisiau chwarae? gan Paul Whittaker a Tamsin Griffiths (Four in Four). Trwy ymgysylltu’n weithredol â’r arddangosfa ryngweithiol, cewch gyfle i archwilio dynameg gywrain eich cydberthnasau, boed yn bersonol neu’n broffesiynol, a chael cipolwg gwerthfawr ar eu harwyddocâd wrth lunio ein bywydau.

Wrth wraidd yr arddangosfa hon mae athroniaeth gofal sy’n canolbwyntio ar berthynas, gan ddathlu’r ddealltwriaeth bod cysylltiadau ystyrlon ag eraill yn chwarae rhan ganolog wrth feithrin ein hiechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol. Wrth i chi lywio drwy’r elfennau rhyngweithiol, byddwch yn darganfod sut y gall meithrin cydberthnasau cadarnhaol a chefnogol wella ein lles cyffredinol yn sylweddol.

O’r eiliad y cawn ein geni, mae cydberthnasau a chwarae yn rhan annatod o sut rydym yn ymgysylltu ac yn cysylltu â’r byd. Nid yn unig yr ydym yn cael ein dylanwadu gan y berthynas uniongyrchol sydd gennym gyda’n teuluoedd, ffrindiau, athrawon ysgol, ein hanifeiliaid anwes… Mae ein hymdeimlad o berthyn hefyd yn cael ei ddylanwadu gan y berthynas sydd gennym â ni ein hunain. Mae’r modd yr ydym yn ymwneud â’n hanesion, ein gobeithion, ein gwerthoedd, ein hamgylchedd a phopeth y tu hwnt i ni, yn real ac yn ddychmygol, yn effeithio ar bob agwedd ar ein chwilfrydedd.

Rydym yn ffurfio perthynas pryd bynnag y byddwn yn rhyngweithio â bywyd, gwasanaeth, system, cymdeithas neu wrthrych arall trwy arbrofi a chwarae. Wrth i ni dyfu rydym yn chwarae llai ac yn derbyn mwy. Mae rhai cydberthnasau yn hawdd ond mae llawer yn anodd. Rydym yn dewis rhai cydberthnasau; caiff rhai ein dewis ar ein rhan.  Mae rhai yn dod â llawenydd inni ac mae eraill yn dod â phoen inni… neu weithiau’r ddau. 

Pan fyddwn yn agored i niwed ac angen cefnogaeth neu ofal, gall deimlo ein bod wedi cael ein cynnwys mewn gêm anghyfarwydd ac rydym yn derbyn y rolau sy’n cael eu rhoi i ni. Rydym yn chwarae’r un gêm ag eraill o’n cwmpas, ond rydyn ni’n dilyn rheolau gwahanol. Pa mor aml ydyn ni’n cwestiynu neu’n herio’r rolau hyn rydyn ni’n eu derbyn?

Ni all neb ein sicrhau y byddwn yn dringo mwy o ysgolion nag yr ydym yn llithro i lawr nadroedd, ond os na allwn osgoi chwarae’r gêm berthynas oni ddylem gymryd yr amser i greu set o reolau sy’n cydnabod gwerthoedd, hoffterau a disgwyliadau’r holl gyfranogwyr? Yn enwedig y cydberthnasau hynny sy’n hanfodol i’n cefnogaeth a’n gofal?

Felly, os nad oes modd osgoi cydberthnasau ac os gall perthynas iach wella ein lles corfforol a meddyliol, cryfhau ein calonnau a’n hunan-werth, oni ddylem ni i gyd gael ein hannog i rolio’r dis neu gymryd siawns i’w gwella?

Gyda’r arddangosfa hon rydym yn eich gwahodd i archwilio eich cydberthnasau, y rolau rydyn ni’n eu chwarae a’r masgiau rydyn ni’n eu gwisgo. Ydych chi eisiau chwarae?

-Four in Four

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.