Rhoi

Mae Ein Dôl Iechyd wedi dod yn hafan i lawer o gleifion, cydweithwyr, ymwelwyr a’r gymuned, gan gynnig man gwyrdd tawel i wella lles pawb sy’n mynychu’r safle. Drwy gydol y deuddeg mis diwethaf, mae’r ddôl bwrpasol hon wedi cael sawl ychwanegiad newydd i’r dirwedd, gan gynnwys dau dŷ crwn mawr, llwybr newydd, a cherfiadau trawiadol i enwi rhai yn unig.

Gwnaed y gosodiad diweddaraf yn bosibl trwy gyfraniad sylweddol gan Stuart Egan, cefnogwr hirdymor. Mae’r fainc hardd hon yn deillio o ysbrydoliaeth ac ymgysylltiad â’r grŵp o wirfoddolwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â Down to Earth. Drwy sgyrsiau a gynhaliwyd yn ystod sesiynau wythnosol, trafodwyd dyluniadau gyda Thomas Chainsaw Carvings, a oedd hefyd yn gyfrifol am greu cerflun y Polyn Pren a’r Dylluan, y gellir eu gweld yn Ein Dôl Iechyd.

Wrth drafod y prosiect, dywedodd Stuart, “Roedd yn wych gallu bod yn Ein Dôl Iechyd ar y diwrnod y cafodd y fainc ei chyflwyno. Rwyf wrth fy modd gyda’r cerfiadau ar y fainc a sut mae’n edrych. Mae’n ychwanegiad newydd hyfryd i’r safle, ac rwy’n gobeithio y bydd y rhai sy’n ymweld â’r ddôl yn mwynhau cael lle ychwanegol i eistedd i gael seibiant.”

Gan fod y fainc edrych dros y dirwedd ogoneddus, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau munud o dawelwch mewn amgylchedd sydd mor brysur fel arall.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.