
Gan weithio gyda Cymru Ddiogelach, fel rhan o’r prosiect Lle i Dyfu, mae amryw o hwyluswyr wedi bod yn cyflwyno gweithdai effeithiol sy’n canolbwyntio ar natur i ddefnyddwyr gwasanaeth benywaidd. Mae Cymru Ddiogelach yn canolbwyntio ar gefnogi a grymuso unigolion sy’n aml yn ymylol mewn cymdeithas, megis dioddefwyr trais domestig, cam-drin rhywiol, camfanteisio, troseddau casineb, a chyn-droseddwyr.

Ysgrifennu Creadigol — Mae Briony Goffin (X: @brionygoffin), darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi arwain sesiynau ar greu cerddi rhestr syml gyda phwyslais ar lawenydd a grymuso. Yn ogystal, archwiliodd cyfranogwyr farddoniaeth acrostig, gan ymchwilio i’w synhwyrau trwy natur gyda ffocws ar y tymhorau newidiol.
Cofnodi Natur — Gwnaeth yr artist lleol Kate Broadhurst (https://www.katebroadhurst.com/) hwyluso cyfres o weithdai cofnodi natur, gan arwain cyfranogwyr i fyfyrio ar batrymau a gweadau o fewn yr amgylchedd naturiol. Roedd y sesiynau’n cynnwys cerdded a chasglu elfennau naturiol ym Mharc Bute i ysbrydoli’r pwnc yn uniongyrchol a gwneud marciau.


Paentio — Cynhaliodd Amanda Turner (https://www.amandaturnerart.co.uk/) weithdai peintio hygyrch, lle’r oedd y cyfranogwyr yn canolbwyntio ar ddeall gwerthoedd yn hytrach na chymysgu lliwiau trwy ddefnyddio un palet lliw. Mae’r pwyslais wedi bod ar bwnc naturiol, gan ganiatáu i gyfranogwyr adeiladu ar eu sgiliau paentio ac archwilio eu cysylltiad â natur.
Cerameg — Yn y flwyddyn newydd bydd Lucy Dickson (https://www.lucydickson.co.uk/) yn arwain cyfres o weithdai cerameg, gan gynnig cyfle i ddysgu technegau adeiladu clai sylfaenol. Bydd cyfranogwyr yn ymgymryd â’r broses lawn o greu cerameg, gan gynnwys tanio mewn odyn.


Mae cyfranogwyr y gweithdy wedi bod yn mwynhau archwilio’r amrywiaeth o ffurfiau celf, dysgu sgiliau newydd a mynegi eu hunain yn greadigol. Mae’r dull sy’n canolbwyntio ar natur wedi bod yn arbennig o bwysig wrth i’r gaeaf agosáu, gan roi cyfle i adnabod harddwch yn y tymhorau newidiol a gwerthfawrogi mannau awyr agored hyd yn oed mewn tywydd oer.
Gwnaeth rhai menywod gyfuno’r profiad a gawsant yn y gweithdai gan ymgorffori ysgrifennu creadigol yn eu llyfrau braslunio ar gyfer cofnodi natur. Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn gobeithio y daw’r ffurfiau celf hygyrch hyn yn arferion rheolaidd i gyfranogwyr, ac y byddant yn fodd i fyfyrio ac ymlacio.
Gallwch ddarganfod mwy am brosiect ehangach Lle i Dyfu yma. Diolch yn arbennig i Gyngor Celfyddydau Cymru am ei wneud yn bosibl drwy eu cyllid hael gan Loteri’r Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.