
Y tîm, fel y gwelir yn y llun uchod (o’r chwith): Szymon, (nyrs ITU), Jose (gwirfoddolwr), gŵr Caroline, Caroline (nyrs ITU), Jeremy (Uwch-ymarferydd Gofal Critigol), a Sam (nyrs ITU). Yn anffodus doedd Zaloa, uwch-nyrs ITU (sy’n eistedd ar y beic bach), ddim yn gallu cymryd rhan yn y daith seiclo, felly fe helpodd y tîm trwy ddosbarthu pebyll ac offer.
Llongyfarchiadau i’r tîm ITU yn Ysbyty Athrofaol Cymru am gwblhau’r daith seiclo o Aberhonddu i Gaerdydd! Er mwyn codi arian ar gyfer rhaglenni addysgol yr adran Nyrsio Gofal Critigol, penderfynodd y tîm ymgymryd â thaith seiclo o Gaerdydd i Aberhonddu trwy Orllewin Cymru a nôl i Gaerdydd trwy Frynbuga rhwng 11-13 Medi 2021.
Gadwodd y tîm am 10am ddydd Sadwrn, a heblaw am ambell ddargyfeiriad annisgwyl ar y ffordd, cyrhaeddodd pawb Wersyll Pencelli Castle i orffwys, cyn cwblhau ail ran y daith ddydd Sul.
Dywedodd Zaloa: “Roedd pawb mewn hwyliau da ac roedd yn brofiad hyfryd a ddaeth â ni i gyd yn agosach. Byddwn yn argymell y math yma o weithgaredd elusennol i godi arian ar gyfer ITU. Pwy a ŵyr, efallai y gallwn ni wneud taith seiclo arall dros y Nadolig! Y tro hwn, gall pobl o adrannau eraill gymryd rhan? Galwad am recriwtiaid newydd!!!”
Da iawn i’r holl dîm a gyflawnodd yr her anhygoel hon! Gallwch chi gyfrannu o hyd i ddangos eich cefnogaeth trwy fynd i https://www.justgiving.com/fundraising/susane-zaloa-chacon-llodio1