Rhoi

Mae Oriel yr Aelwyd yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa The Dementia Darnings gan yr artist amlgyfrwng Jenni Dutton. Yn y corff hwn o waith, mae Jenni yn ymateb i ddiagnosis dementia ei mam drwy ddefnyddio pwytho i ail-greu portreadau o’i mam o hen albymau lluniau. Mae’r arddangosfa wedi teithio’n helaeth o amgylch y DU ac wedi teithio i Ewrop a Tsieina. Dyma fydd y tro cyntaf iddi ddod i Gymru ac mae Oriel yr Aelwyd yn falch o’i harddangos.

Bydd ei merch, Briony Goffin, hefyd yn ymuno â Jenni ac yn cyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol – Writing as Tribute. Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa The Dementia Darnings, bydd y gweithdy ysgrifennu creadigol cynnes a chroesawgar hwn yn archwilio grym Writing as Tribute. Gyda chefnogaeth ac arweiniad gan yr awdur a’r tiwtor Briony Goffin, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ysgrifennu teyrnged i rywun arbennig yn eu bywydau ar ffurf cerdd restr syml. Nid oes angen unrhyw brofiad ysgrifennu blaenorol, a darperir yr holl ddeunyddiau ysgrifennu.

Cafodd y gweithdy hwn ei ysbrydoli hefyd gan sgwrs TED Briony Goffin, Writing as an Act of Tribute, lle mae Briony yn defnyddio ffurf y gerdd restr i anrhydeddu ei mam-gu, Gladys Dutton, testun y gwaith celf yn arddangosfa The Dementia Darnings. Mae’r prosiect hwn wedi creu cyfle i waith mam a merch orgyffwrdd, ac i ddod â thair cenhedlaeth o fenywod yn ôl at ei gilydd unwaith eto.

Ariannwyd y prosiect hwn yn garedig gan Loteri Staff.

Datblygodd y gyfres dan yr enw The Dementia Darnings o ddiddordeb a llawenydd fy mam wrth iddi edrych drwy albymau lluniau teuluol. Cafodd ddiagnosis o ddementia yn 2011 ac wrth i’m rôl fel gofalwr dyfu, daeth i’r amlwg mai’r unig ffordd i barhau â fy ymarfer oedd trwy ei gwneud hi a’n sefyllfa ni yn destun i fy ngwaith. Roedd hi’n mwynhau fy nghwmni, yn fy ngwylio gyda diddordeb pan fydden i o bryd i’w gilydd yn dod â’r canfasau i’w thŷ i weithio arnynt. Fe’m syfrdanwyd gan ei hymateb, ei hymgysylltiad â’r broses o ystyried y dirywiad yn ei chof.

Mae fy nghefndir mewn celfyddyd gain, yn hytrach na chelfyddyd ffeibr. Datblygais y delweddau mewn arddull tebyg i greu llun llinellau rhesog, gan wnïo drwy rwyd bobinette cain wedi’i ymestyn dros ganfas. Mae’n broses araf, fyfyriol. Gall pob un gymryd hyd at dri neu bedwar mis i’w gwblhau.

Tyfodd y gyfres wrth i fy mam fynd i gartref nyrsio. Wrth i fi drosglwyddo cyfrifoldeb am ei gofal i bobl eraill, fe ddes i’n arsylwr. Fe wnes i barhau i wneud y gwaith a oedd bellach yn ymwneud â heneiddio’n gyffredinol, am dreigl amser a dogfennu ei dirywiad o ganlyniad i ddatblygiad dementia. Dechreuais wahanu pob darn o’r gwlân tapestri i’w linynnau unigol, gan eu smwddio er mwyn gwaredu’r crychion. Roedd yr edafedd main hyn yn helpu i gyfleu ei heiddilwch tyner. Bu farw’n heddychlon yn 2015.

Mae The Dementia Darnings wedi teithio’n helaeth yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop, ac fe wnaeth detholiad o’r gwaith gyrraedd Tsieina yn 2018. Gellir cysylltu â fi drwy fy ngwefan.

               Jenni Dutton, Ebrill 2022

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.