Rhoi

Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau blasu yn y gwanwyn, gwnaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ariannu 14 o Sesiynau Gwirio Cyflwr Beic pellach, gan weithio gyda’r elusen leol Cardiff Pedal Power.   Cynhaliwyd y sesiynau hyn ar draws ein safleoedd ysbyty yn ystod Medi a Hydref 2021, gyda’r nod o sicrhau bod beiciau’n barod at y gaeaf, gan alluogi staff i fynd ar gefn eu beiciau yn ddiogel a chael ychydig o awyr iach!

Roedd y rhan fwyaf o’r sesiynau hyn yn llawn, felly gwnaethom wrando ar ein cydweithwyr a symud rhai sesiynau i ardaloedd nas cwmpaswyd yn wreiddiol, a gwnaethom hefyd sicrhau ein bod yn cwmpasu safleoedd ychwanegol yn cynnwys YAC a Thŷ Coetir.

Mae rhywfaint o’r adborth cadarnhaol iawn a gawsom gan aelodau o staff yn dilyn eu gwiriadau cyflwr beic unigol yn cynnwys:-

“Nid wyf wedi defnyddio fy meic yn ystod Covid am fy mod wedi bod yn gweithio o gartref, felly roeddwn wedi rhoi’r gorau iddi i raddau, ond gwnaeth y gwiriad cyflwr beic roi’r hwb i fi fynd yn ôl ar gefn fy meic ac rwyf wedi dechrau seiclo eto – a dwi wedi sylweddoli cymaint rwyf wedi’i golli. Roedd yn dawelwch meddwl gwybod bod fy meic yn dal i fod mewn cyflwr da, a rhoddodd Craig gyngor defnyddiol i fi ar sut i’w gynnal a’i gadw i’r dyfodol.  Mae’n wasanaeth gwych i’w gael yn y swyddfeydd, diolch eto am drefnu ac i Craig am ei help.” – Helen Griffith, Uwch-arbenigwr Hybu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tŷ Coetir.

“Roeddwn am ateb i ddweud pa mor ddefnyddiol oedd y gwiriad cyflwr beic. Roedd yn dda gwybod bod fy meic yn ddiogel i’w ddefnyddio ar gyfer cymudo, a gwnaeth Craig amlygu meysydd a oedd yn destun pryder yn ôl blaenoriaeth. Roedd yn ddefnyddiol iawn.” – Jo Rogers, Biocemegydd Clinigol, YALl.

“Roedd hwn yn wych a hoffwn ei weld yn parhau os yn bosibl.  Diolch i Craig am wneud hyn ac i chi am drefnu.” – Owen Seddon, Cofrestrydd Arbenigol – Microbioleg, YALl.

“Roedd hwn yn wiriad amserol, gwnaeth Craig hefyd newid tiwb gwynt oedd gennyf, tynhau ychydig o geblau a rhoi cyngor gwerthfawr iawn ar sut i gynnal a chadw’r beic i’r dyfodol, na fyddwn wedi bod yn ymwybodol ohono – rwy’n ei argymell yn fawr ac mae’n wych ei fod ar safle YALl.” – Claire Guy, YALl

“Roeddwn am ddweud diolch yn fawr am fy ngwiriad cyflwr beic ddoe.  Gwnaeth y gŵr ddarparu gwasanaeth cyfeillgar ac effeithlon a rhaid i mi ddweud bod fy meic yn teimlo’n llawer gwell ar y daith adref!  Rhoddodd ychydig o argymhellion i fi hefyd ar waith y dylwn ei wneud ar y beic yn y dyfodol agos, ac mae’n dawelwch meddwl i fi nawr wrth ddefnyddio fy meic yn y misoedd gwlypach, ac mae wedi fy ysbrydoli i barhau i seiclo i’r gwaith! Diolch yn fawr.” Alice Richards, Arweinydd Gwasanaeth Awyru Cartref a Ffisiotherapydd Anadlol Arbenigol, YALl.

“Diolch yn fawr iawn am y gwiriadau cyflwr beic yr wythnos diwethaf.  Roedd llawer o’m cydweithwyr yn yr adran wedi manteisio ar y gwiriad cyflwr beic, yn cynnwys fi fy hun, ac roeddem yn hapus iawn ar wasanaeth a chyngor Craig. Gwnaeth hyd yn oed annog rhai ohonynt i seiclo i’r gwaith am y tro cyntaf, sy’n ganlyniad gwych yn fy marn i!” – Lydia Ashworth, Nyrs Dermatoleg, YAC (Tŷ Morgannwg).

 Dywedodd Sue-Dickson-Davies, arweinydd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ar gyfer y prosiect hwn, “Mae’r staff i gyd wedi bod yn hynod ddiolchgar i gael cynnig y gwasanaeth hwn am ddim, ac mae’r cymorth a’r wybodaeth a gynigiwyd gan Craig o Pedal Power wedi creu argraff fawr arnynt, gan eu helpu i gael eu beiciau yn ôl ar y ffordd ac yn barod at y gaeaf.  Yn dilyn ceisiadau o’n sesiynau blasu cychwynnol, gwnaethom ychwanegu safleoedd ychwanegol i’r sesiynau hyn, yn cynnwys YAC a Thŷ Coetir, a byddem yn agored i awgrymiadau ar gyfer lleoliadau gwahanol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol y gallem eu cynnal y flwyddyn nesaf.   Hoffwn hefyd ddweud diolch o galon i Craig o Pedal Power am ei gymorth a’i hyblygrwydd wrth drefnu’r sesiynau hyn, mae’n gallu delio ag unrhyw beth!”.

“Mae rhai staff wedi dweud o hyd nad oeddent yn ymwybodol o’r sesiynau hyn, felly byddwn yn eich argymell i gadw llygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, https://healthcharity.wales/  i gael newyddion am ddyddiadau yn y dyfodol neu ddigwyddiadau tebyg y flwyddyn nesaf.  Rydym hefyd yn hysbysebu ar Ap Staff Connects y BIP.”

Mae’r prosiect hwn yn helpu’r BIP i gyflawni ei ymrwymiadau o dan y Siarter Teithio Iach – ceir rhagor o wybodaeth yma: www.healthytravel.wales/charters

I gael rhagor o wybodaeth am hyn neu am unrhyw un o’n prosiectau yn yr Elusen Iechyd, cysylltwch â’r tîm ar fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.