Rhodd er Cof/i Ddathlu
Rhodd er Cof
Beth am gofio am rywun annwyl a chefnogi’r Elusen Iechyd drwy roi er cof. Rydym wir yn gwerthfawrogi pobl yn meddwl am ein helusen ar adeg anodd iawn.
Os hoffech roi er cof, mae dwy ffordd syml iawn y gallwch wneud hyn:
Gofynnwch i bobl roi i’r elusen yn hytrach na phrynu blodau. Gallwch ofyn am amlenni ar gyfer rhoddion yn swyddfa’r elusen.
Ewch ati i greu cronfa deyrnged – Mae sefydlu cronfa deyrnged yn ffordd hael o gofio am rywun annwyl. Cofiwch gysylltu i drafod eich opsiynau.
Rhodd i Ddathlu
Mae gofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau roi i’r Elusen Iechyd yn hytrach na phrynu anrhegion yn ffordd wych o godi arian.
Gwnewch eich pen-blwydd, eich priodas neu eich achlysur arbennig yn fwy arbennig fyth drwy ofyn am roddion i’r Elusen Iechyd yn lle anrhegion. Mae nifer o’n cefnogwyr yn dewis rhoi yn lle cael anrhegion, gan ein helpu ni i wneud gwahaniaeth i’n cleifion.
I gael rhagor o wybodaeth am sefydlu Rhodd i Ddathlu neu er mwyn archebu amlenni ar gyfer rhoddion, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk