Gwirfoddoli
Mae sawl ffordd y gallwch roi, a dydy hynny ddim bob amser yn golygu rhoi arian. Rydym yn dibynnu ar ein criw gwych o wirfoddolwyr sy’n ein helpu ni i hyrwyddo digwyddiadau ac yn helpu i wella’r ardal o amgylch yr ysbyty. Beth bynnag fo’ch cefndir, a sut bynnag byddwch chi’n helpu, byddwch yn gweld bod gwirfoddoli i’r Elusen Iechyd yn werth chweil ac yn hwyl.
Mae gwirfoddoli yn golygu unrhyw weithgaredd neu wasanaeth lle rydych chi’n treulio amser, yn ddi-dâl, yn gwneud rhywbeth sy’n helpu rhywun arall, y gymuned leol neu’r amgylchedd.
Mae nifer o fanteision i wirfoddoli, a hynny i’r gwirfoddolwr a’r gymuned. Mae gwirfoddoli yn gyfle gwych i ddatblygu’n bersonol; mae’n ffordd o fagu hyder a dysgu sgiliau newydd neu ddefnyddio’r sgiliau sydd gennych chi nawr.
Gwirfoddoli yn ein Pod Gwirfoddoli
Mae nifer o’n cefnogwyr yn aelodau diolchgar o deuluoedd sy’n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i’r Elusen Iechyd am y gofal maent wedi’i dderbyn.
Er mwyn i ni allu eu cefnogi yn y ffordd orau bosibl, rydym wedi sefydlu pod gwirfoddoli yng nghyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru. Fel gwirfoddolwr yn y pod, gallwch gyfarfod darpar gefnogwyr a rhoi rhagor o wybodaeth iddynt ac unrhyw adnoddau y gall fod eu hangen arnynt, a phrosesu rhoddion untro. Ffrindiau a theulu cleifion sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd fydd nifer o’r bobl a fydd yn galw draw yn y pod, felly mae’n bwysig bod yn gyfeillgar ac yn annwyl.
Gwirfoddoli mewn digwyddiadau
Mae angen gwirfoddolwyr arnom bob amser i helpu yn ein digwyddiadau. Mae ein digwyddiadau yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a chodi ymwybyddiaeth o waith yr Elusen Iechyd.
Gallech fod yn gwneud unrhyw beth o werthu tocynnau raffl i gofrestru pobl sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau. Os hoffech helpu gyda digwyddiadau her, ond nad oes gennych chi awydd rhedeg marathon, neidio allan o awyren na dringo Everest, yna efallai mai gwirfoddoli mewn ardal gefnogi yw’r dasg orau i chi.
Mae ein gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer ein digwyddiadau. Ni fyddem yn gallu cefnogi’r bobl sy’n codi arian heb help anhygoel ein gwirfoddolwyr – boed hynny drwy ofalu am ardal gefnogi, rhoi trefn ar bobl sy’n cerdded neu helpu yn Ein Berllan. Byddwch yn sicr o gael hwyl a mwynhau beth bynnag y byddwch yn ei wneud.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk