Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Sue Friis-Jones, Rheolwr Cymorth Gofal Sylfaenol, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr.

Mae Sue wedi gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Caerdydd a’r Fro ers dros 30 mlynedd mewn amrywiol adrannau, gan ennill llawer iawn o wybodaeth a meithrin cydberthnasau gwaith rhagorol gyda llawer o bobl ac adrannau.

Dywedodd Jen Pugh a Caroline Sharp, Hyrwyddwyr Lles gyda’r Tîm Gofal Sylfaenol, “Os nad yw Sue yn gwybod yr ateb i rywbeth, sy’n brin iawn ynddo’i hun, bydd yn adnabod y person sydd yn gwybod yr ateb. Bydd Sue yn mynd gam ymhellach i unrhyw un sydd angen ei help, bob amser yn barod i gymryd cydweithwyr o dan ei hadain, ac yn cefnogi pawb mewn unrhyw ffordd a all.

“Am nifer o flynyddoedd, bu Sue yn rhedeg siop fwyd Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol (PCIC) yn Nhŷ Coetir a oedd yn hynod boblogaidd, gan sicrhau bod ffrindiau a chydweithwyr yn cael dewis o ddanteithion a diodydd hyfryd. Mae Sue bob amser yn trefnu digwyddiadau hwyliog yn y swyddfa fel swîps ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, casgliadau tîm, ac wrth gwrs ei chwis Nadolig enwog.”

Y tu allan i’r gwaith, mae Sue wedi bod yn arwain y Sgowtiaid ers nifer o flynyddoedd, ac yn flaenorol bu hefyd yn arwain grwpiau eraill fel y Geidiaid. Roedd ei gwaith a’i hymroddiad i’r grwpiau hyn wedi ei harwain i gyfarfod a gwneud gwahaniaeth i fywydau llawer o bobl ifanc, ac mae ei hanturiaethau gyda nhw wedi mynd â hi i bedwar ban byd.

Parhaodd Jen a Caroline, “Yn fyr, mae Sue yn berson hollol wych. Mae hi’n Sue-perb!”

Bydd Sue yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.