

Mae’n bleser gan Oriel yr Aelwyd gyflwyno arddangosfa Still: Here gan artistiaid o Stiwdios Artistiaid Kings Road. Wedi’u lleoli ym Mhontcanna, Caerdydd, mae’r stiwdios wedi bod yn gonglfaen i gymuned celfyddydau Caerdydd ers cryn amser.
Dechreuodd y cyfan ym 1996 pan oedd dau o raddedigion Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn chwilio am stiwdios. Ar ôl chwilio am amser hir daethant ar draws hen adeilad diwydiannol oedd â hanes cyfoethog, a oedd wedi dechrau bywyd fel y golchdy i ysbyty lleol. Aeth yr artistiaid ati i drawsnewid y llawr uchaf yn 14 stiwdio, ac mae un ohonynt wedi cael ei hadnewyddu ers hynny yn ofod cegin lle gall artistiaid gwrdd dros baned.
Mae gan fentrau, cwmnïau cydweithredol a grwpiau artistiaid le amlwg mewn hanes celf, gan roi cyfle i artistiaid ddod at ei gilydd wedi’u cymell yn aml gan faterion cyffredin, i rannu eu gwaith, tynnu sylw at faterion cymunedol neu ddatgelu straeon nas adroddwyd.
Mae stiwdios ac adeiladau artistiaid yn cynnig mwy na dim ond lle i weithio, maent hefyd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer cyd-gefnogaeth, fel llwyfannau ar gyfer rhannu sgiliau a gwybodaeth, ac yn feirniadol fel llwyfan i arddangos gwaith. Nod stiwdios cydweithredol, sy’n aml o dan eu rheolaeth eu hunain, yw cysylltu â’r gymuned ehangach a chynulleidfaoedd ac yn aml maent yn sylfaen i ecosystemau a chymunedau creadigol – gall eu pwysigrwydd dreiddio drwy ddinas.

Mae Artistiaid Kings Road yn cynrychioli ymagwedd amrywiol, agored a chynhwysol tuag at y celfyddydau; rydym yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi arferion celf ein holl aelodau ac rydym yn ymgysylltu’n llawn â’r gymuned gelfyddydol ehangach yng Nghaerdydd a thu hwnt. Rydym wedi cefnogi nifer fawr o artistiaid o Gaerdydd dros y blynyddoedd gan gynnwys y rhai sydd newydd adael ysgol gelf, gan ddarparu mentora a chefnogaeth, a llwyfan i’w hymarfer ffynnu.
Mae ein haelodau presennol yn gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau celf gan gynnwys paentio, argraffu, cyfansoddi sain a ffilm, ffotograffiaeth a thecstilau, ac mae nifer o’n haelodau yn gweithio i gefnogi’r gymuned ehangach i fwynhau manteision ymgysylltu â’r celfyddydau creadigol.
Mae ein digwyddiadau’n cynnwys stiwdios agored ac arddangosfeydd, cysylltwch â ni neu ymwelwch â ni yn Kings Road Yard, Pontcanna
-Artistiaid Kings Road
www.kingsroadartiststudios.com
Facebook: Stiwdios Artistiaid Kings Road


