Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Spencer Gibson, Arweinydd y Tîm Diogelwch, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth.

Ym mis Rhagfyr 2023, cafodd y tîm Diogelwch yn Ysbyty Athrofaol Cymru wybod bod dyn mewn adeilad yn yr ysbyty yn ymddwyn yn amheus.

Aeth Arweinydd y Tîm Diogelwch, Spencer Gibson, i’r lleoliad a gofynnodd am gymorth gan Swyddog Cyswllt yr Heddlu ar safle’r Bwrdd Iechyd, PC Baggett. Gyda’i gilydd, gwnaethant ddod o hyd i’r dyn amheus, ei stopio a’i chwilio, a daethpwyd o hyd i eitemau nad oedd yn perthyn i’r dyn.

Dywedodd Damian Winstone, Pennaeth y Gwasanaethau Diogelwch a Phorthorion, “Tra bod PC Baggett yn gwneud gwaith ymchwilio i adnabod y dyn, gwnaeth swyddogion diogelwch gadw’r eitemau yn ddiogel yn yr ystafell rheoli diogelwch, a llwyddasant i adnabod perchennog cywir yr eiddo trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd perchennog yr eiddo eu bod wedi dioddef bwrgleriaeth ychydig oriau ynghynt.”

Gwnaeth y swyddogion diogelwch gysylltu â PC Baggett ar unwaith, a wnaeth arestio’r dyn amheus a mynd ag ef i ddalfa’r heddlu.

Aeth Damian yn ei flaen i ddweud, “Roedd hwn yn waith partneriaeth gwych rhwng Tîm Diogelwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Swyddogion Cymdogaeth yn Heddlu De Cymru i gadw pobl yn ddiogel. Gweithiodd Spencer yn ddiflino, a phedair awr ar ôl y digwyddiad, arestiwyd yr unigolyn dan amheuaeth.”

Bydd Spencer yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

cDefnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.