Y Nadlig hwn, mae’r Celfyddydau dros Iechyd a Llesiant Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio â Theatr Hijinx, sef un o gwmnïau theatr cynhwysol blaenllaw Ewrop, i greu Sengl Nadolig Elusennol!
Mae’r Celfyddydau dros Iechyd a Llesiant Caerdydd a’r Fro yn falch o gefnogi band tŷ cynhwysol Hijinx, sef Vaguely Artistic, i weithio gydag oedolion a phobl ifanc niwrowahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu er mwyn cynhyrchu sengl i godi arian i brosiectau cymunedol Hijinx.
Bydd yr unigolion sy’n cymryd rhan yn ysgrifennu’r geiriau ac yn cyfansoddi’r gân, gyda chefnogaeth gan gyfansoddwr proffesiynol. Fe fyddan nhw’n recordio’r darn ac yn creu fideo, a bydd rhai aelodau o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro’n ymuno hefyd!
Bydd y Sengl Nadolig Elusennol yn cael ei rhyddhau ddydd Sadwrn 19 th Rhagfyr 2020.
Mae’r tîm yn edrych ymlaen i chi ei gwylio a chadw llygad am fwy o’n gwaith â Hijinx a fydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2021 hefyd!
