
Ar benwythnos 23/24 Hydref 2021, mae’r tîm yn Splash Central yn cynnal – ‘Sblash o Binc’ – penwythnos o ddigwyddiadau i godi arian ac ymwybyddiaeth yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, yn uniongyrchol er budd Apêl Canolfan y Fron.
Bydd digwyddiadau yn cynnwys gweithgaredd nofio i’r teulu a marathon nofio a noddir. Yn ogystal, cynhelir amrywiaeth o ddosbarthiadau gwahanol gan gynnwys pilates, cylchedau, a ‘poundfit’ gyda’r holl arian ar gyfer y dosbarthiadau hyn yn mynd yn uniongyrchol at Ganolfan y Fron yn Ysbyty Llandochau. Ar gyfer y bobl ifanc, bydd gweithgareddau celf a chrefft gwahanol ar gael, gyda’r holl roddion yn mynd tuag at Ganolfan y Fron unwaith eto.
Disgwylir y bydd ‘Sblash o Binc’ yn ddigwyddiad hwyliog i’r teulu cyfan, a byddem yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n cymryd rhan!
Ar adeg pan fo cleifion yn gallu teimlo’n bryderus, mae’n debyg ei fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr iddynt gael gwasanaeth di-dor yng Nghanolfan y Fron sy’n bwrpasol ac yn cynnwys popeth o dan yr un to. Apêl Canolfan y Fron a gododd yr arian i adeiladu’r Ganolfan, sydd wedi’i dylunio yn seiliedig ar anghenion cleifion ac sy’n gartref i glinigau cleifion allanol a gwasanaethau radioleg ddiagnostig gyda’i gilydd. Gall cleifion gael mamogram neu uwchsain a chael eu canlyniadau ar yr un diwrnod; yna os oes angen archwiliadau pellach, gellir eu cyflawni yn y Ganolfan hefyd.
Mae rhoddion i Apêl Canolfan y Fron hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu bras arbennig ar gyfer cleifion mastectomi ac adlunio ac yn cynnig therapïau ategol, nosweithiau pampro a sesiynau steil a hyder i fenywod sydd wedi cael triniaeth ar gyfer canser y fron.
Mae rhoddion hefyd wedi darparu ffisiotherapydd ar gyfer sesiynau un-i-un fel gwasanaeth rhagnodi ymarfer corff, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, campfa ar gyfer ein cleifion sy’n cael llawdriniaeth ar gyfer canser y fron, yn ogystal â grwpiau nofio ac ymarfer corff preifat yn Splash Central ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael llawdriniaeth canser y fron. Gwnaeth yr apêl hefyd ddarparu offer a phecynnau TG er mwyn gallu parhau i gysylltu â chleifion yn ddiogel, a chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol cyfredol ar yr un pryd.
Trefnwch eich apêl codi arian ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau a noddir yma: https://www.justgiving.com/campaign/SplashofPink
Er mwyn trefnu eich gweithgareddau, dilynwch y dolenni isod: