Cafodd Samantha, sy’n Dderbynnydd yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon, ei henwebu gan Jen Pugh, Rheolwr Gweithrediadau a Gweinyddu Ardal y Gogledd-orllewin am “fynd yr ail filltir i gefnogi’r holl gleifion a staff sy’n defnyddio’r Ganolfan Iechyd.”

Yn ei henwebiad, dywedodd Jen: “Hoffwn enwebu Samantha, ein Derbynnydd anhygoel yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon, am wobr Arwr Iechyd.
“Mae Samantha bob amser yn mynd yr ail filltir i gefnogi’r holl gleifion a staff sy’n defnyddio’r Ganolfan Iechyd.
“Mae nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth Canolfan Iechyd Glan yr Afon yn wynebu rhwystrau iaith wrth ymweld â’r Ganolfan Iechyd gan mai nad Saesneg yw eu mamiaith. Mae Samantha bob amser yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu’r cleifion hynny drwy ddod o hyd i ffyrdd o gyfieithu a threulio amser yn canfod beth sydd ei angen arnynt, sy’n aml yn cynnwys eu harwain at y practis Meddyg Teulu cyfagos ar ôl iddynt ddod i’r Ganolfan Iechyd mewn camgymeriad.
“Mae Sam yn treulio amser yn dod i adnabod y cleifion rheolaidd, yn sicrhau bod digon o le eistedd sy’n diwallu eu hanghenion, yn ffonio tacsis i gleifion, yn glust i wrando a hyd yn oed yn canfod gwybodaeth ynghylch gofal cymdeithasol a lles ac yn helpu cleifion i ddod o hyd i’r gwasanaethau hyn pan fo angen.
“Mae Sam yn cynorthwyo staff yn yr adeilad ym mha bynnag ffordd bosibl, mae ganddi gydberthnasau gwych gydag ymwelwyr rheolaidd y Ganolfan Iechyd megis staff y Gwasanaethau a Rennir, y tîm Ystadau, staff y Prosiect Clwstwr ac ati.
“Yn ystod y pandemig a’r cyfyngiadau symud, roedd Samantha bob amser ar y safle yn y Ganolfan Iechyd, yn sicrhau bod staff a chleifion yn ddiogel (mae’r Ganolfan Iechyd hefyd yn gartref i ddau bractis GMS), yn sicrhau bod gorsafoedd diheintio dwylo ar gael ledled yr adeilad a bob amser yn llawn, yn gosod system unffordd ar gyfer staff a chleifion i symud yn ddiogel trwy’r adeilad, yn sicrhau bod pawb ar y safle’n ymwybodol o unrhyw ddiweddariadau trwy arwyddion ac e-byst clir, ac yn rheoli llif cleifion i’r adeilad yn ôl yr angen.
“Does dim byd yn ormod i Samantha, yn enwedig pan ddaw i helpu’r cleifion ac ymwelwyr yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon, bydden ni i gyd ar goll hebddi!”
Ar ôl rhoi gwybod i Samantha ei bod hi wedi cael ei henwi’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Medi, dywedodd: “Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth pan atebais y ffôn a chlywed fy mod i’n Arwr Iechyd ar gyfer y mis. Roedd yn sypreis braf ac yn hynod annisgwyl. Mae cael eich gwerthfawrogi yn y gwaith yn golygu’r byd.”
Bydd Samantha’n Arwr Iechyd yn ystod mis Medi ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni.
Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.
Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.
Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!