Rhoi

Bydd Robert Morris yn cymryd rhan yn Ironman Dinbych-y-Pysgod 2022 i godi arian ar gyfer y Tîm Trawma Mawr a achubodd fywyd ei ferch. Mewn damwain lle yr oedd perygl i fywyd, cafodd Emmie (2 oed) anafiadau trychinebus. Yn ogystal â thorri sawl asgwrn, cafodd ei rhoi mewn coma yn yr Uned Gofal Dwys lle cafodd ddwy lawdriniaeth. Mae Emmie bellach wedi gwella’n llwyr, a hoffai Robert ddangos ei ddiolch i aelodau’r Tîm Trawma Mawr am eu gwaith anhygoel!

Dywedodd Robert: “Mae ein tywysoges fach bellach yn holliach, yn fwy drygionus nag erioed ac yma i adrodd yr hanes, a byddwn ni’n fythol ddiolchgar am hynny.

Rwyf wedi penderfynu cymryd rhan yn Ironman Dinbych-y-Pysgod 2022 er mwyn codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer y Tîm Trawma Mawr, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Roedden nhw’n gofalu nid yn unig am Emmie, ond amdanon ni fel teulu ac fe wnaethon nhw achub ein merch fach.”

Mae’r hyfforddiant ar gyfer yr Ironman bellach wedi dechrau, ac mae Robert yn dangos ei ymrwymiad i gefnogi’r Tîm Trawma Mawr trwy ddysgu sut i nofio a hyfforddi i redeg pellteroedd hirach.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Robert am ei gyfraniad anhygoel, a dymuno pob lwc iddo gyda’i hyfforddiant!

I gefnogi taith Robert, ewch i’w Dudalen JustGiving i gyfrannu.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.