Rhoi

Ar 3 Hydref, bydd Rhian Thomas-Turner, Arweinydd Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yn rhedeg Marathon Rhithwir Llundain yng Nghaerdydd.

Mae Rhian yn ymgymryd â’r her enfawr i godi arian i 2 elusen – World Child Cancer ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro – ar gyfer cronfa Gofal Canser i Blant yn Sierra Leone (Ysbyty Plant Ola During yn Freetown).

Dywedodd yr Athro Meriel Jenney, Meddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg Bediatrig a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, “Diolch yn fawr iawn i Rhian am gefnogi’r gwaith o helpu plant sydd â chanser yn Sierra Leone. Gallwn ni sicrhau ein holl gydweithwyr y bydd unrhyw arian a godir yn mynd yn uniongyrchol at gefnogi gofal cleifion: Mae cronfa’r Elusen Iechyd yn cefnogi hyfforddiant, cemotherapi a pheth delweddu ac mae World Child Cancer yn ariannu uwch-bediatregydd i gael hyfforddiant oncoleg bediatrig am 2 flynedd yn Ghana er mwyn iddi allu arwain y gwasanaeth ar ôl dychwelyd (yn gynnar y flwyddyn nesaf) sy’n hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd.  Mae WCC hefyd yn cefnogi hyfforddiant nyrsys.

Mae gennym ni (y tîm oncoleg bediatrig yng Nghaerdydd) gysylltiadau cryf iawn gyda’r timau clinigol yn Sierra Leone o hyd.”

Mae Rhian yn gobeithio codi £1000 ar gyfer y ddau achos anhygoel hyn, a bydd unrhyw gefnogaeth yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr: https://uk.virginmoneygiving.com/19966_9401698_8379

Pob lwc Rhian – byddwn ni gyda ti yn rhithwir bob cam o’r ffordd!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.