Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Rachel Lloyd-Davies, Dirprwy Reolwr Ward yn y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc (SRC), wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf.

Mae Rachel yn Ddirprwy Reolwr Ward yn y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac mae’n cael ei pharchu gan gydweithwyr am ei chefnogaeth, ei hanogaeth a’i chryfder cyson tuag at staff, ymwelwyr a chleifion.

Yn ôl cydweithwyr hynod gefnogol Rachel, “Hyd yn oed gyda phrinder staff a salwch, mae Rachel wedi sicrhau bod anghenion a dymuniadau’r cleifion, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd, wedi cael eu diwallu uwchlaw popeth arall. Mae hi’n gofalu am ei staff, yn dysgu ac yn addysgu lle bynnag y bo modd, ond byth mewn modd nawddoglyd.”

Wrth sôn am etheg gwaith Rachel, dywedodd cydweithiwr arall, “Bydd Rachel yn aml yn aildrefnu ei phatrwm gwaith, a hyd yn oed yn dod i’r gwaith ar ddyddiau i ffwrdd i sicrhau bod gennym ddigon o staff. Mae hi bob amser yn gwirio ein bod wedi cael amser i ailhydradu ac yn cynnig cefnogaeth i’n hiechyd a’n lles yn barhaus.”

Yn ystod dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, addurnodd Rachel yr ystafell ddydd a gwneud yn siŵr bod cleifion yn gallu rhyngweithio â’r cyngerdd gan gynnig cyfle iddynt gymryd rhan drwy chwifio baneri, canu a sgwrsio. Mae Rachel hefyd wedi ailgyflwyno menter grŵp cinio yn ddiweddar, a ddechreuodd cyn COVID, a oedd yn boblogaidd iawn ac o fudd mawr i gleifion.

Wrth grynhoi’r drafodaeth, dywedodd cydweithwyr Rachel, “Rydym yn aml yn derbyn llawer o ganmoliaeth gan berthnasau am natur garedig a gofalgar Rachel. Yn ddiweddar, gwnaed sylwadau gan rhai perthnasau fod Rachel wedi newid eu bywydau; mae hi’n rhyfeddol! Gyda chalon o aur, Rachel yw ein seren SRC ddisglair, ac rydym mor lwcus ohoni.”

Bydd Rachel yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.