Donate

Mae Loteri’r Staff wedi bod yn falch iawn i gefnogi’r Prosiect Tyfu Llysiau Staff diweddar a gynhaliwyd yn Ein Dôl Iechyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r Prosiect Tyfu Llysiau Staff yn brosiect sy’n canolbwyntio ar les a thyfu bwyd organig. Mae’n cynnwys sesiynau blasu hanner diwrnod, ac mae’n gwahodd cydweithwyr i ddysgu sgiliau newydd a chynyddu eu hyder i dyfu eu bwyd eu hunain, hyd yn oed ar ddesg neu silff ffenestr gartref. Nod y sesiynau yw cynorthwyo lles a chysylltiadau, a chefnogi iechyd corfforol a meddyliol gweithwyr.

Mae gwaith ymchwil parhaus wedi profi bod garddio a thyfu bwyd o fudd i iechyd corfforol a lles meddyliol. Y tu hwnt i’r llawenydd o feithrin planhigion a gweld eu twf, mae’r gweithgareddau hyn yn darparu cysylltiad uniongyrchol â natur, gan ganiatáu i unigolion ymlacio a lleddfu straen mewn amgylchedd tawel. Mae tyfu eich cynnyrch eich hun hefyd yn cefnogi bwyta bwydydd ffres, maethlon, gan feithrin deiet cytbwys ac o bosibl leihau’r risg o broblemau iechyd sy’n gysylltiedig â deiet.

Mae’r gweithdai tyfu bwyd wedi’u cyflwyno yn Ein Dôl Iechyd gan Down to Earth, ein partneriaid hirsefydlog sy’n hyrwyddwyr byw’n gynaliadwy, ac wedi bod yn gweithio gyda chleifion, staff a gwirfoddolwyr i drawsnewid Ein Dôl Iechyd yn hafan werdd a bioamrywiol ar safle Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae llawer o gydweithwyr BIPCAF wedi mynychu’r sesiynau, sydd wedi creu plannwr blodeuol, gyda chennin syfi, tomatos, perlysiau a llysiau eraill sydd wedi bod yn ffynnu yn ystod misoedd yr haf. Mae wedi rhoi hyder i’r mynychwyr ddechrau garddio gartref, gan eu grymuso i ddechrau eu prosiectau tyfu eu hunain.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi bod yn falch iawn o gefnogi’r Prosiect Tyfu Llysiau Staff, gan ei fod yn hybu iechyd meddwl a chorfforol ein cydweithwyr gwych. Yn ogystal â lleihau straen a darparu mwy o lwybrau ar gyfer deiet iach, mae’r prosiect hefyd yn ffordd gynaliadwy a chadarnhaol o ymwneud ag amgylcheddau naturiol.

Pam ddylech CHI ymuno â Loteri’r Staff!

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau sy’n gwella gwasanaethau di-ri ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn ein helpu i wneud pethau’n well i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i greu Cymru fwy Ffyniannus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i wneud cais am arian drwy gronfa Loteri’r Staff, a all wella eich adran neu wasanaeth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff am gyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir llenwi ffurflenni cais  yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.