
Mae’n bleser gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles gefnogi Gweithdai Barddoniaeth ar Lafar, Pŵer y Pen, a grëwyd ac a gyflwynir gan Duke Al ac a gynhelir yng Ngerddi’r Rheilffordd, y Sblot, Caerdydd.


“Y pen, a’r pen inswlin. Yr inc a’r inswlin. Fel bardd a pherson sy’n byw gyda diabetes math 1 (T1D) mae’r ddau ben yn hollbwysig, yr inswlin, wel, dwi’n siŵr eich bod chi’n gwybod beth mae hwnnw’n ei wneud… ond yr inc, ddim mor ymwybodol efallai. Mae’r inc yn y pen yn arf pwerus, mae’n caniatáu i mi fynegi fy hun a dweud wrth y dudalen sut mae T1D yn effeithio arna i, rwy’n gwneud hyn ar ffurf barddoniaeth, dyma fy archbŵer fy hun.” – Duke Al
Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu profiadau, cwrdd â phobl ifanc eraill, a chael eu clywed. Mae ein sesiynau’n cael eu cyd-gynhyrchu gan Nyrs Cyswllt Diabetes Cymunedol Pediatrig BIPCAF a Gweithiwr Cymorth Ieuenctid i Bobl Ifanc, a’u hariannu fel rhan o’n prosiect Lle i Dyfu, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Rydym yn edrych ymlaen at ragor o sesiynau anhygoel gan Duke Al, a diolch i staff Gerddi’r Rheilffordd am eu cefnogaeth.
