Rhoi
This image has an empty alt attribute; its file name is IMG_2126-1024x683.jpg

Mae prosiect cyffrous arall wedi’i gwblhau yn Ein Dôl Iechyd! Gyda diolch i gyllid gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae Polyn Pren, sydd wedi’i gerfio’n hyfryd, yn sefyll yn ardal goediog Ein Dôl Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae’r bonyn, a gymerwyd o’r safle i ddechrau, wedi’i ddylunio’n ofalus gan ein gwirfoddolwyr, ac yna cafodd ei gerfio ar y safle gan Thomas Carvings cyn cael ei ailosod yn Ein Dôl Iechyd.

Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae Down to Earth ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi gweithio ochr yn ochr â grŵp gwych o wirfoddolwyr, o gleifion a chydweithwyr y GIG i aelodau’r gymuned. Gyda’i gilydd, fe wnaethant daflu syniadau am y Polyn Pren ac roeddent yn awyddus i weld eu dyluniadau ar waith ar ôl ychydig o sesiynau a gynlluniwyd. Drwy gydol y broses cafodd y cerfwyr wybod am syniadau’r grŵp cyfunol.

Gyda’r bwriad i gynrychioli gorwelion gwahanol Ein Dôl Iechyd, a gyda chymorth Thomas Carvings, fe wnaethant wylio eu gweledigaeth yn dod yn fyw.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.