Rhoi

Penderfynodd merch 9 oed o’r Eglwys Newydd y byddai’n rhedeg marathon mewn 10 diwrnod i godi arian i’w helusen y GIG leol a fe lwyddodd i wneud hynny mewn 7 ras!

Disgybl yn Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yw Elinor Roberts, a phan orffennodd yr ysgol yn fuan ym mis Rhagfyr, addysg gorfforol oedd un o’i thasgau gwaith cartref. Ar ôl iddi sgwrsio a swnian ar ei Thad, Aled, fe benderfynodd y ddau y bydden nhw’n rhedeg marathon cyn iddi droi’n 10 oed ar 31 sup>st Rhagfyr 2020.

Dechreuodd Elinor ar yr her ar 20th Rhagfyr a’i gwblhau ar 28th Rhagfyr mewn 7 ras yn unig.

Mae Elinor yn hoff iawn o redeg ac yn cymryd rhan mewn triathlons iau, ond roedd hi’n ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod clo a hithau wedi arfer gwneud ymarfer corff. Roedd yr her o gwblhau marathon yn gyfle gwych iddi ddal ati gyda’i ffitrwydd a hefyd yn gyfle iddi roi rhywbeth yn ôl i’r GIG drwy godi arian yr un pryd. Mae rhieni Elinor yn gweithio i’r GIG, mae ei Mam yn Feddyg Teulu a’i Thad Aled yn ymghynghorydd meddygol.

Dywedodd Suzanne ei Mam: “Rwy’n falch iawn o Elinor, mae hi wedi bod yn benderfynol ei bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r GIG ac wedi swnian ar ei Thad i gymryd rhan efo hi. Rwy’n methu â chredu ei bod wedi cwblhau’r her mewn saith diwrnod yn unig ac wedi casglu bron i £1,000 – mae hi’n seren!”

Mae Elinor wedi casglu bron i £1,000 hyd yma, os hoffech chi ei helpu i gyrraedd ei tharged ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/aled-roberts9

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.