Rhoi

Ddydd Sadwrn 20 Awst, cynhaliodd tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Berfformiad Mawr y GIG i godi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Cefnogwyd y digwyddiad gan Noddwr yr Elusen Iechyd, Nathan Wyburn, yn St Andrew’s Coffee Court ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan amrywiaeth o gerddorion stryd talentog.

Roedd y perfformiadau yn cynnwys sesiwn les ryngweithiol gan Amruta Garud, a setiau gwych gan Grant James, James Jones, Skye Dunning a Charlotte Amodeo.

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol fwynhau amrywiaeth o stondinau crefft, coffi a chacennau a chymryd rhan yn y raffl gyda gwobrau a roddwyd yn garedig gan gefnogwyr, gan gynnwys blwch brownis fegan drwy’r post gan Vegana Bakes.

Bydd yr arian a godwyd yn y digwyddiad yn mynd yn uniongyrchol tuag at ariannu amgylcheddau creadigol, gweithdai a chyfleoedd i gleifion, staff ac ymwelwyr yn BIP Caerdydd a’r Fro.

Os oes gennych ddiddordeb mewn codi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk fel y gall ein tîm gefnogi a hyrwyddo eich gwaith codi arian.

Hoffai tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ddiolch yn FAWR eto i bawb a oedd yn ymwneud â Pherfformiad Mawr y GIG.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.