Rhoi

Rydym wedi clywed am y codwyr arian cyntaf sydd wedi cofrestru i blymio o’r awyr i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75.

Bydd Olivia, Charlie ac Anais yn mentro i’r awyr ar 9 Gorffennaf 2023 er cof am eu hannwyl fam-gu, Anita Person, a ddioddefodd anaf trawmatig i’r ymennydd yn 2022, yn anffodus na lwyddodd i wella ohono.

Hoffai’r tîm o dri ddiolch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am gymryd gofal rhagorol o Anita, a byddant yn codi arian ar gyfer Ein Dôl Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, man gwyrdd arloesol sy’n cefnogi lles cleifion, staff, ymwelwyr ac aelodau o’r gymuned drwy weithgareddau awyr agored cynaliadwy.

Dywedodd Olivia, Charlie ac Anais: “Roedd mam-gu yn hoff o antur a byddai wedi caru’r syniad o daflu ei hun allan o awyren. Felly, er cof amdani, rydym wedi derbyn yr her ac ar ddydd Sul 9 Gorffennaf byddwn yn “mwynhau” teimlo’r wefr o blymio o’r awyr mewn tandem am funud o 15,000 troedfedd!”

Hoffem ddiolch yn fawr i Olivia, Charlie ac Anais am eu hymrwymiad i gefnogi Ein Dôl Iechyd yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro drwy gymryd rhan yn y profiad bythgofiadwy, unigryw hwn. Er mwyn eu cefnogi drwy gyfrannu, ewch i’w tudalen JustGiving.

Os hoffech ddiolch i’ch ysbyty lleol am ddarparu gwasanaeth rhagorol i chi’ch hun neu i rywun annwyl, neu os hoffech ymuno â ni wrth ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75, gallwch hefyd gofrestru i gymryd rhan yn yr her plymio o’r awyr. I gofrestru eich diddordeb, ewch i: https://healthcharity.wales/events/skydive-for-your-nhs/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.