Rhoi

Pan gofrestrodd Rob Morris i wneud Ironman Cymru roedd  nofio dim ond pellter byr yn anodd iddo. Mewn gwir ysbryd Ironman, trawsnewidiodd o fod yn nofiwr amatur i fod yn gystadleuydd brwd mewn mater o fisoedd, fel ffordd o ddiolch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am achub bywyd ei ferch.

Gwnaeth Emmie (2 oed) ddioddef anafiadau trychinebus mewn damwain ddifrifol iawn. Yn ogystal â thorri sawl asgwrn, cafodd ei rhoi mewn coma yn yr Uned Gofal Dwys lle cafodd ddwy lawdriniaeth.    Mae Emmie bellach wedi gwella’n llwyr.

I ddiolch i’r Ganolfan Trawma Mawr fe wnaeth tad Emmie, Rob godi arian drwy gymryd rhan yn Ironman Dinbych-y-Pysgod 2022 ym mis Medi. Roedd yr hyfforddiant yn hir ac yn galed iawn, ond ymrwymodd Rob yn llwyr i’r her drwy ddysgu sut i nofio, a hyfforddi i redeg pellteroedd hirach.

Meddai Rob: “Rwyf wedi penderfynu cymryd rhan yn Ironman Dinbych-y-Pysgod 2022 er mwyn codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer y Tîm Trawma Mawr, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Fe wnaethon nhw ofalu nid yn unig am Emmie, ond amdanon ni fel teulu ac fe wnaethon nhw achub bywyd ein merch fach.”

Dywedodd Bryony Roberts, Uwch Nyrs Trawma Mawr: “Mae hi mor braf clywed bod Emmie yn gwneud yn dda!  Byddwn ni’n cofio amdani am byth am ei dewrder.   Mae’n bleser croesawu Emmie, Rob a Katie yn ôl, ac rydym yn ddiolchgar iawn am rodd mor hael.”

Roedd y Ganolfan Trawma Mawr wrth eu boddau i dderbyn y rhodd, a fydd yn cael ei defnyddio i ariannu ymchwil a hyfforddiant pellach. Diolch yn arbennig i’r Adran Achosion Brys, Gofal Dwys Pediatrig a Ward Tylluan, am ofalu am Emmie.

Llongyfarchiadau enfawr Rob, am gyflawniad bywyd gwych! Rydym mor ddiolchgar am dy ymroddiad a’th gefnogaeth.

I glywed y stori’n llawn yng ngeiriau Katie (mam Emmie) ei hun, ewch i : https://www.youtube.com/watch?v=A9jvpAgUNTk

Os ydych chi’n ystyried codi arian ar gyfer ward neu adran ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.