Pob lwc a diolch yn fawr i Adam Harcombe, ei deulu, ei ffrindiau a’i gymuned rygbi leol sydd wedi penderfynu cwblhau amserlen o ddigwyddiadau yn 2021, gan ddechrau gyda her 26 milltir yn ystod mis Mawrth i gefnogi Apêl Prop!
Roedd Adam wedi bod yn glaf mewnol yn Uned Adsefydlu Arbenigol Niwrowyddorau, Ysbyty Rookwood wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol iawn i’w ben. Roedd wedi dioddef nifer o namau gwybyddol a chorfforol, gan gynnwys colli ei olwg mewn un llygad. Roedd grym cymeriad Adam yn amlwg o’i ddiwrnod cyntaf yn Uned Niwroadsefydlu Rookwood. Aeth ati i adsefydlu yn llawn penderfyniad, ac roedd yn rhaid ei atgoffa i arafu ambell waith.
Dywedodd Tîm Ffisiotherapi Rookwood “Pan ddaeth Adam atom ni i ddechrau, roedd angen cymorth dau unigolyn arno i gerdded. Oherwydd ei natur benderfynol a’i ymrwymiad i wella, roedd yn dod yn ei flaen yn gyflym, ac erbyn iddo fynd adref, roedd yn gallu cerdded gyda chymorth ffon gerdded yn unig. Rydym yn gwybod y bydd Adam yn dal ati i wella oherwydd ei ffocws a’i awydd i lwyddo, ynghyd â chefnogaeth ei deulu a’i ffrindiau.”
Roedd grŵp o glybiau rygbi o ardal Rhondda Cynon Taf yn awyddus i gefnogi eu ffrind, a phenderfynodd y clybiau eu bod yn dymuno gwneud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth, i ddangos cefnogaeth ac i godi arian i Adam.
Dywedodd ei ffrind, Dylan Jones “Mae nifer o bobl yn hoffi ac yn parchu Adam yn ein cymuned. Roedd wedi creu fideo yn ddiweddar, yn adrodd ei stori, ac yn dangos ei gynnydd. Roedd wir yn ysbrydoledig. Ar ôl gweld y fideo, mae criw ohonom wedi mynd ati i drefnu amserlen o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal eleni er mwyn ei gefnogi.”
26 milltir ym mis Mawrth
Ar gyfer y digwyddiad cyntaf, mae Adam yn annog pobl i gymryd rhan drwy gerdded neu redeg 26 milltir yn ystod mis Mawrth. 26 milltir yw’r pellter rhwng y clybiau rygbi y mae wedi’u cynrychioli. Gall cefnogwyr roi rhodd o £5 neu faint bynnag yr hoffent ac yna cwblhau’r her wrth eu pwysau.
I gael rhagor o wybodaeth am yr her, ffoniwch Dylan Jones ar 07841632434
Ewch i https://justgiving.com/campaign/propappeal i roi.
Gallwch helpu Adam i godi hyd yn oed mwy o arian drwy anfon neges destun gyda’r gair PROP at 70085 i roi £10. Mae pob neges destun yn costio £10 a phris cyfradd safonol un neges destun, a byddwch yn optio i mewn i glywed mwy am ein gwaith a’n gwaith codi arian dros y ffôn a drwy SMS. Os hoffech roi £10 ond nad ydych chi’n dymuno derbyn negeseuon marchnata, anfonwch neges destun gyda’r gair PROPNOINFO at 70085.
I brynu crys-t #ZeroNegativity am £10, gyda hanner yr elw’n mynd tuag at Apêl Prop, ewch i;
I gael gwybod y diweddaraf, dilynwch @GotheDistanceAH ar Twitter a defnyddio’r hashnodau #ZeroNegativity #AH12
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Apêl Prop a sut gallwch chi helpu i gefnogi Uned Adsefydlu Arbenigol Niwrowyddorau Ysbyty Rookwood, anfonwch e-bost atom yn Fundraising.cav@wales.nhs.uk