Rhoi

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r arddangosfa  My Gratitude for Nature gan Elaine Jones, artist o Fannau Brycheiniog. Mae ei gwaith celf yn darlunio fflora a ffawna, a thirweddau lleol hardd.

Rwyf wedi fy lleoli yn y bryniau ychydig y tu allan i Lanymddyfri, ac fe ddewch o hyd i mi yn fy stiwdio, sef hen gerbyd rheilffordd yn edrych dros Fannau Brycheiniog. Caf fy ysbrydoli’n gyson gan fy amgylchedd hardd ac rwy’n cael llawer o ysbrydoliaeth o’m hardal leol. Rwy’n artist hunan-ddysgedig sy’n defnyddio acrylig a dyfrlliw yn bennaf ynghyd â llu o gyfryngau a chrefftau eraill. Dwi’n mwynhau arbrofi gyda gweadau ac arddulliau gwahanol.

Mae fy ngwaith wedi cael ei ddisgrifio fel gwaith sy’n codi calon, yn gydnaws ac yn emosiynol. Mae’r gwaith yn cynnwys tirluniau, morluniau a blodau ynghyd â gwaith haniaethol yn fwy diweddar. Rydw i’n aelod o Stiwdios Agored Dyffryn Tywi lle dwi’n agor drysau fy stiwdio bob blwyddyn i’r cyhoedd, gan obeithio ysbrydoli eraill i fod yn greadigol.

Mae fy nhaith artistig wedi bod o fudd therapiwtig mawr i mi yn ystod fy mhroblemau iechyd. Mae wedi cael effaith mor gadarnhaol ar fy hunan-barch a’m hyder felly roeddwn yn awyddus iawn i ymwneud â Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles. Dwi’n dwli ar y syniad bod fy ngwaith celf yn cael effaith gadarnhaol mewn lleoliad fel hwn a’i fod, gobeithio, yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio creadigrwydd fel math o therapi ar gyfer eu hiechyd a’u lles eu hunain.

  • Elaine Jones

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.