Bydd y tîm yn Mollart Resolfen yn dringo Pen y Fan i godi arian ar gyfer Canolfan Ffeibrosis Systig (CF) Cymru Gyfan i Oedolion. Byddant yn gwneud y daith ddydd Gwener 2 Medi i ddringo copa uchaf De Cymru, gyda’r nod o godi £2,000 i gefnogi’r gwaith o gwblhau’r ddwy ardd ochr yn y ganolfan CF.
Mae’r Ganolfan CF yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Ar hyn o bryd mae’n darparu gofal Ffeibrosis Systig (CF) arbenigol i dros 350 o gleifion sy’n oedolion o bob rhan o Gymru a’r gororau.
Mae CF yn gyflwr etifeddol, lle rydych chi’n etifeddu un genyn diffygiol gan bob un o’ch rhieni. Mae gofal am CF wedi newid dros y blynyddoedd, gan ddechrau o nifer fach o feddyginiaethau a ddefnyddir i helpu i wella symptomau i amrywiaeth eang o feddyginiaethau i helpu i atal afiechyd. Gan fod CF yn effeithio ar gymaint o rannau o’ch corff, gall effeithio ar bron unrhyw ran o’ch bywyd, gan gynnwys eich iechyd corfforol a meddyliol, lles, gwaith a chydberthnasau.
Mae’r Ganolfan CF bellach wedi’i chwblhau, ac eithrio’r ddwy ardd ochr â gatiau sy’n ffinio â’r ganolfan, a fydd yn cael eu defnyddio gan gleifion CF yn unig. Hoffai’r tîm yn Mollart Resolfen gefnogi’r cleifion yn y Ganolfan CF drwy godi arian i gwblhau’r gerddi.
Bydd darparu man awyr agored newydd i gleifion a staff y Ganolfan CF yn ychwanegiad i’w groesawu, a’r nod fydd hybu eu morâl a’u lles trwy ei wneud yn fwy hygyrch i dreulio amser yn yr awyr agored a mwynhau byd natur.
Hoffem ddweud pob lwc i Dîm Mollart Resolfen ar eu her wych, a diolch iddynt am gefnogi ein cleifion a’n cydweithwyr yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion. Rydyn ni gyda chi’r holl ffordd i ben mynydd eiconig Pen y Fan!
Os hoffech chi gefnogi’r tîm yn Mollart Resolfen i gyrraedd eu targed codi arian o £2,000, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/Mollart-Resolven-Divison-CF