Dechreuodd Lottie Stokes godi arian er budd Gwasanaeth y Galon i Blant yng Nghymru pan gafodd ei hail fab, Louie ddiagnosis o gyflwr difrifol ar y galon a fyddai’n golygu bod angen nifer o lawdriniaethau arno.
Mae Lottie, ei gŵr Karl a Louie ei hun wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr ymdrechion i godi proffil ein bwrdd iechyd a chodi arian i achosion da er budd plant yng Nghymru sydd ag afiechyd y galon ers pan oeddent wedi cael eu geni. Rhwng pawb, maent wedi llwyddo i godi dros £40,000. Defnyddiwyd yr arian i brynu offer newydd, gwella safonau’r cyfleusterau diagnosteg presennol a hyrwyddo ymchwil ac addysg. Gallwch ddarllen mwy yma;
Dywedodd y fam, Lottie “Roedd yn briodol iawn fod Louie wedi cael ei eni ym mis Chwefror, mis y galon! Ar 24 Chwefror 2009 fe wnaethom groesawu ein hail fab i’r byd. Roeddem ni, a’i frawd mawr Dylan, wedi gwirioni yn syth. Ond doedden ni ddim yn gwybod y byddai’n brwydro am ei fywyd tua 10 awr yn ddiweddarach! Cafodd Louie ei eni gyda Thrawsosodiad y Rhydwelïau Mawr, Stenosis yr Ysgyfaint a Diffyg ar y Galon… roeddem wedi dychryn. Yn ystod y daith rydym wedi cwrdd ag arwyr go iawn, ac mae ganddyn nhw le arbennig yn ein calonnau. Hoffem ddiolch i’r Athro Uzun sydd wedi bod yn gefn i ni o’r cychwyn cyntaf. Mae ein budd pennaf ni a Louie wedi bod yn bwysig iddo, mae bob amser yn sgwrsio am bêl-droed gyda Louie ac mae bob amser yn frwdfrydig dros gael syniadau a phrosiectau newydd er mwyn sicrhau bod ymchwil a datblygiadau yn cael sylw. Allwn ni ddim diolch digon iddo am bopeth mae wedi’i wneud i ni ac i deuluoedd eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar! Mae Louie yn gwneud yn eithriadol o dda ar hyn o bryd, ac mae’n dal i gael ei fonitro nes bydd angen llawdriniaeth arall arno. Fyddech chi byth yn gwybod beth mae wedi mynd drwyddo’n barod dim ond wrth edrych arno. Rydym wedi bod yn codi arian ers dros 11 mlynedd nawr, ac rydym yn falch o allu helpu gydag ymgyrch ddiweddaraf yr Athro Dr Uzun.
Dywedodd yr Athro Dr Uzun Cardiolegydd y Ffetws a Phediatreg Ymgynghorol:
“Rwy’n cael teimladau cymysg iawn wrth ddarllen geiriau mor hyfryd a diffuant gan bobl fel teulu Stokes, sydd wedi mynd drwy bethau go iawn. Mae’r bobl yma’n arbennig o gadarn ac maen nhw’n gallu trawsnewid eu trallod annisgwyl yn gariad, yn serch ac yn ysbryd calonnog. Mae’r bobl anhunanol hyn wedi bod yn hael iawn yn helpu eraill sydd mewn angen, a hwythau eu hunain angen gofal a sylw gan eu ffrindiau a’u teulu.
Mae Lottie, Karl, a’u mab – fy arwr, y “seren bêl-droed” – Louie yn llawn hapusrwydd a hwyl bob tro y byddan nhw’n dod i apwyntiad. Mae gwên hyfryd Louie yn codi calon pawb sy’n cael y pleser o’i gyfarfod. Maen nhw bob amser yn meddwl am bobl eraill ac yn gofyn am well gofal i bob plentyn sy’n dioddef problemau â’i galon. Maen nhw’n cefnogi Uned y Galon i Blant yng Nghymru drwy’r amser gyda’u hymdrechion codi arian ac maen nhw’n cymryd rhan mewn ymchwil llywodraethu, ac yn dylunio a datblygu gwasanaethau arloesol fel dinasyddion a rhanddeiliaid.
Diolch i’r arian a gasglwyd gan deulu Stokes rydym yn falch iawn o fod yn datblygu “Gwasanaeth Diagnosteg Cardioleg Tele-Ffetws” ar gyfer babanod heb eu geni sydd â phroblemau ar y galon yn Ne Cymru. Rydym yn gobeithio sefydlu modiwlau ymgynghori ar unwaith drwy ddarparu technoleg o’r radd flaenaf i bob Ysbyty Cyffredinol Dosbarth lle mae menywod beichiog yn cael sgan am anomaleddau’r ffetws. Bydd gwasanaeth o’r fath yn unigryw o ran y bydd yn helpu i leihau anghydraddoldebau yn ardaloedd anghysbell Cymru drwy ddileu’r angen i rieni sy’n poeni deithio i Gaerdydd i gael sgan arbenigol. Bydd timau lleol yn gallu cael barn arbenigol ar unwaith a bydd hyfforddiant byw ar-lein ar gael am ddim heb i bobl orfod adael eu hysbytai.
Dymunaf ben-blwydd hapus iawn i fy ffrind ifanc, dewr sydd wrth ei fodd â phêl-droed a hoffwn ddiolch o galon i Lottie a Karl am eu haelioni a’u cefnogaeth barhaus yn helpu’r GIG i ddarparu’r gofal gorau i fabanod cyn iddyn nhw gael eu geni ac i blant sydd â chalonnau arbennig.”
Yr Athro Dr Orhan Uzun, MD FRCP
Cardiolegydd y Ffetws a Phediatreg Ymgynghorol
Electroffisiolegydd Cardiaidd Pediatreg Ymgynghorol
Os hoffech roi a chefnogi’r Gwasanaethau Cardioleg Bediatrig, cliciwch yr adran rhoi ar frig y dudalen hon.