Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Meryl Hosapian wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mehefin.

Yn ôl cydweithwyr Meryl, mae ganddi ffordd hyfryd gyda chleifion, gan siarad â nhw a’u tawelu pan fyddant ar y ffordd i sganiau sy’n aml yn peri gofid. Mae ganddi agwedd gadarnhaol, mae hi’n gweithio’n galed a byth yn cwyno.

Wrth drafod enwebiad Meryl, dywedodd un o’i chydweithiwr, “Mae dawn gan Meryl. Mae hi wedi bod yn graig i mi, yn synhwyro pan nad yw pethau’n iawn. Mae hi bob amser yn gyfeillgar ac yn fywiog yng nghwmni staff a chleifion. Fe welodd hi fy mod i o dan straen ryw ddiwrnod ac fe ddychwelodd i’r ward ar ôl ei sifft i lenwi fy mhocedi gyda siocled, yna gwnaeth yr ymdrech i ddod o hyd i mi y diwrnod canlynol i wneud yn siŵr fy mod yn iawn. Dynes anhygoel.”

Dywedodd Julie Morris, Uwch Oruchwyliwr, “Mae Meryl yn hyblyg, ac mae ganddi agwedd ofalgar iawn tuag at gleifion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Rydym wedi derbyn canmoliaeth am safon gwaith Meryl a’r tosturi y mae hi’n parhau i’w ddangos i eraill. Rwy’n falch iawn o glywed ei bod wedi cael ei henwebu.”

Bydd Meryl yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mehefin ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.