
Rydym yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa Mark Things er cof am Mark Stephens, gweithiwr cymorth gofal iechyd yn Uned Ddydd Onnen a fu farw yn gynharach eleni. I ddathlu’r effaith a gafodd Mark ar bawb o’i gwmpas, mae staff a chleifion Gwasanaethau Dydd Niwroseiciatreg wedi creu gwaith celf er cof amdano, sy’n arddangos eu sgiliau gwych ac yn rhoi cipolwg i ni ar y ffordd y mae Mark wedi ysbrydoli cleifion a’i gydweithwyr trwy ei waith.
“Mae colli ein cydweithiwr a’n ffrind annwyl Mark Stephens yn annisgwyl yn gynharach eleni wedi achosi sioc a thristwch mawr ymhlith staff a chleifion o fewn y gwasanaeth Niwroseiciatreg. Bydd y rhai a oedd yn ei adnabod yn deall ei bod yn anodd disgrifio’r effaith a gafodd Mark ar y gwasanaeth a’i gleifion.
Rydym yn teimlo mor ffodus fod Mark wedi bod gyda ni fel gweithiwr cymorth gofal iechyd yn Uned Ddydd Onnen; yn ôl sawl un, fe oedd calon y Gwasanaethau Dydd Niwroseiciatreg. Roedd Mark yn credu mewn grymuso, a boed yn sesiynau crochenwaith, grwpiau cerddoriaeth, croeseiriau, eiliadau o ymwybyddiaeth ofalgar, neu’n glust i wrando, ni fyddai neb yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn fwy na Mark.
Roedd y tîm a’r cleifion o’r farn y byddai cofio Mark mewn ffordd greadigol yn addas iawn. Diolch i Oriel yr Aelwyd rydym wedi gallu arddangos gwaith creadigol gan staff a chleifion er cof am Mark.”
- Sophie Burkitt, Rheolwr Canolfan Ddydd yr Adran Niwroseiciatreg
Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith a grëwyd mewn amrywiaeth o gyfryngau, ac mae’n dangos y gwaddol calonogol ac ysbrydoledig y mae Mark wedi’i adael ar ôl. Mae hyn hefyd yn destament i effeithiau cadarnhaol y celfyddydau creadigol ar iechyd meddwl a lles, ac yn profi sut y gall un person effeithio’n gadarnhaol ar fywydau cymaint o bobl gyda’i frwdfrydedd dros greadigrwydd.







