Rhoi

Roedd yn bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gydweithio â’r Gyfarwyddiaeth Gardioleg i roi golwg newydd i’r mannau yn yr Adran Gardioleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru drwy ddarparu finyl newydd ar y wal. Gan ddefnyddio rhoddion cefnogwyr i’r gronfa Gardioleg yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, dyluniodd y timau’r golygfeydd natur llachar a lliwgar a’r ffeithluniau sydd wedi trawsnewid y gofod yn llwyr.

Mae’r fideo dan sylw yn dangos Ceri Phillips (Nyrs Cardiothorasig Arweiniol), a Sian Williams (Uwch Nyrs Gardiothorasig) yn trafod y prosiect a’i fanteision. Mae hefyd yn rhoi cipolwg i chi o’r uned wedi’i thrawsnewid gyda’i hychwanegiadau newydd ar y wal.

Mae’r waliau wedi’u diweddaru wedi gwneud y mannau yn yr Adran Gardioleg yn amgylchedd tawel ac ymlaciol, gan wella profiad cleifion, staff ac ymwelwyr. Roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wrth eu bodd yn cefnogi’r tîm gyda’r prosiect hwn, ac maent yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol.

Os hoffech gyfrannu at y gronfa Cardioleg i gefnogi prosiectau fel hyn yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.