Gwnaeth y Manic Street Preachers chwarae cyfres o gyngherddau’n ddiweddar yn y Motorpoint Arena, Caerdydd, gan godi cyfanswm o £85,000 ar gyfer elusennau lleol y GIG yng Nghymru. Cafodd gweithwyr y GIG fynd i gyngerdd am ddim hefyd fel diolch am eu gwaith caled yn ystod y pandemig.
Mae’r band llwyddiannus iawn – a gafodd ei sefydlu yn y Coed Duon yn 1987 wedi hyrwyddo’r GIG ers llawer o flynyddoedd, a gwnaethant roi £35,000 yn benodol i gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ystod cyfnod adfer y pandemig COVID-19.
Dywedodd y band “Roeddem am wneud rhywbeth i ddangos ein gwerthfawrogiad, ein cariad a’n parch at y GIG a’i weithwyr dewr anhygoel. Un sioe am ddim ac un sioe i godi arian oedd y ffordd orau yn ein barn ni o ddangos ein diolch am eu holl waith arwrol.”
Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro “Hoffwn ddweud diolch o galon i’r Manic Street Preachers am eu rhodd hael iawn. Mae eich cefnogaeth yn golygu cymaint i ni, a bydd yn helpu i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion a staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro”.