Rhoi

Mae poteli dŵr Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro bellach ar gael i’w prynu am £5 yn unig yn eich Caffi Aroma lleol!

Maen nhw’n berffaith ar gyfer pan fyddwch chi’n symud o le i le, neu’n eistedd wrth y ddesg. Mae’r poteli amldro hefyd yn ddewis mwy cynaliadwy na defnyddio poteli plastig untro, felly gallwch warchod y blaned wrth dorri syched!

Bydd elw’r holl werthiannau yn cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Gallwch hefyd archebu poteli ar-lein i’w postio neu i’w casglu drwy fynd i: https://healthcharity.wales/events/cardiff-vale-health-charity-water-bottles/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.