Mae cyllid gan ein Hapêl Canolfan y Fron wedi ein galluogi i brynu iPad a Sgrîn Rhyngweithiol 75 modfedd gyda chyfrifiadur rhagosodedig sydd bellach wedi’u lleoli yng Nghampfa Canolfan y Fron.
Mae’r offer wedi galluogi ein Huwch Ffisiotherapydd i gynnal gwersi ymarfer corff rhithwir wedi’u ffrydio’n fyw i dai cleifion, gan gynnig technoleg y gellir ei defnyddio yn y tymor hir, ac nid yn ystod COVID yn unig. Dyma un gwaddol cadarnhaol o’n ffyrdd newydd o weithio a fydd yn caniatáu i unrhyw un o’n cleifion sydd ddim yn gallu gadael eu cartrefi am ba bynnag reswm gael mynediad.
Ceir rhaglen o oddeutu 14 o ddosbarthiadau ‘rhithwir’ sy’n cynnwys:
- Dosbarth ‘sit fit’ ar gyfer y rhai hynny sy’n cael trafferth gyda symudedd a chydbwysedd
- Dosbarth cerdded yn y cartref
- Symudedd y fraich
- Pilates
- Dosbarth cryfhau
- Dosbarth dawnsio cardio
Dywedodd Victoria (Tor) Collins, ein Huwch Ffisiotherapydd yng Nghanolfan y Fron “efallai mai nad dod i’r ysbyty i ymarfer mewn campfa fyddai dewis cyntaf pawb. Mae cael stiwdio ymarfer corff broffesiynol rithwir wedi’i gosod yn ein galluogi i gefnogi cleifion gyda’u targedau ymarfer o gysur eu cartrefi eu hunain”.

