Donate

Sefydlwyd loteri’r staff ym mis Medi 2005 i godi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro (rhif cofrestru’r elusen: 1056544) er budd staff a chleifion. Ers hynny, mae’r loteri wedi mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn, mae gan staff y cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, a cheir dwy raffl enfawr bob blwyddyn hefyd!

Gall holl staff Bwrdd Iechyd y Brifysgol ymuno â’r loteri, ac am gyn lleied â £1 yr wythnos gallech ennill £1,000. Cofiwch fod ein prosiectau elusennol ein hunain ar eu hennill hefyd. Mae pob ceiniog o elw yn mynd i’n cronfeydd elusennol a gallai eich ardal chi elwa.

Er mwyn cydymffurfio ag argymhellion Archwilio, mae’r Loteri wythnosol yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener olaf pob mis. Byddwn yn cysylltu â’r pedwar neu bump enillydd lwcus.

Yr Elusen Iechyd sy’n rhedeg Loteri’r Staff ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan godi llawer iawn o arian er budd cleifion, ymwelwyr a staff.

Bob mis bydd pedwar neu bump o weithwyr lwcus yn ennill £1000!!!

I gael gwybod sut mae cymryd rhan, sut mae’n gweithio, sut mae gwneud cais am arian ac i gael enghreifftiau o grantiau blaenorol, llwythwch gopi o’n taflen i lawr.

Os hoffech ymuno â loteri’r staff, ffoniwch Swyddfa’r Elusen Iechyd ar 029 2183 6052.

Ffeithiau am y Loteri

Bydd y loteri’n cael ei dynnu bedwar neu bum gwaith bob mis a bydd yr enillwyr yn cael £1000 – hyn i gyd am £1 yr wythnos (sy’n cyfateb i £4.33 y mis)

Os na fydd modd cael gafael ar enillydd, bydd ei enw’n cael ei roi ar y Fewnrwyd a byddwn yn gofyn iddo gysylltu er mwyn hawlio’i wobr. Os na fydd wedi cysylltu â ni ar ôl tri mis, bydd ei enw’n cael ei dynnu’n ôl a bydd yr arian yn cael ei gadw yng nghronfa’r Loteri.

Mae rhifau’r Loteri yn cael eu tynnu
bob mis

Gallwch dalu’n syth
o’ch cyflog

Talu bob wythnos neu bob mis

Sut mae ymuno

  • Penderfynwch sawl rhif bob wythnos
  • Llenwch Ffurflen Gais Loteri (mae’n syml a rhwydd) a’i chyflwyno ar-lein
  • Postiwch y ffurflen i Swyddfa Codi Arian yr Elusen Iechyd yn y post mewnol

Ffurflen gais

[advanced_form form=”form_staff_lottery”]


Unrhyw gwestiynau?

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n rhedeg loteri’r staff. Cysylltwch â swyddfa’r Elusen yn:

Swyddfa’r Elusen
Woodland House, Maes-y-Coed Road, Y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4HH
Estyniad ffôn 36041 neu anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Enillwyr Blaenorol

YOUR £1,000 April STAFF LOTTERY WINNERS ARE:

Jeffery Davies, Estates Department, UHW

Marlene Jones, Community Midwifery, UHW

Rhian Smith, Palliative Care Office, UHW

Susan Mogford, Short Stay Surgical Unit, UHW

Sarah Thompson, Accident & Emergency Unit, UHW

The April 2021 Staff Lottery Draw helped create five £1,000 winners who were all delighted to hear the brilliant news!   

THE STAFF LOTTERY £5,000 SUPERDRAW TO BE DRAWN ON 25th JUNE 2021 & £21,000 in October!

SO COME ON AND PLEASE SIGN UP!

Mae Loteri’r Staff yn cefnogi staff ledled Caerdydd a’r Fro drwy greu enillwyr newydd bob mis. Mae hefyd yn galluogi staff i wneud cais am arian gan Banel Ceisiadau Loteri’r Staff, sydd wedi rhoi grantiau o dros £1.5 miliwn i gefnogi nifer o brosiectau ledled Bwrdd Iechyd y Brifysgol sydd o fudd i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Lottery Application form can be completed electronically here and returned to fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.