Rhoi

Yn dilyn ychydig o oedi, roedd y tywydd o’r diwedd o blaid y criw mentrus hyn a wnaeth blymio o’r awyr yn ddiweddar i godi arian at achos da.  Wedi deffro gyda pheth nerfusrwydd, roedd Charlie, Olivia, Anais, a Jack i gyd yn barod i fynd pan gyrhaeddon nhw Faes Awyr Abertawe yn yr haul ganol dydd.

Fel y dywedodd Olivia, roedd yn un o brofiadau gorau ei bywyd ac yn rhywbeth y byddai’n bendant wrth ei bodd yn ei wneud eto.  “Roedd yn fwy arbennig fyth gan ein bod ni i gyd yn codi arian i’n hysbyty GIG lleol ar ôl i’n nain, Anita Pearson farw yn gynharach eleni.  Byddai nain wedi bod wrth ei bodd yn plymio o’r awyr, a dyna pam y gwnaethom hynny er anrhydedd iddi”

Gwnaeth y grŵp ei ffordd i Faes Awyr Abertawe mewn cerbyd trydan a gefnogwyd gan Nathaniel Cars ar gyfer yr Elusen Iechyd.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.