Yn dilyn ychydig o oedi, roedd y tywydd o’r diwedd o blaid y criw mentrus hyn a wnaeth blymio o’r awyr yn ddiweddar i godi arian at achos da. Wedi deffro gyda pheth nerfusrwydd, roedd Charlie, Olivia, Anais, a Jack i gyd yn barod i fynd pan gyrhaeddon nhw Faes Awyr Abertawe yn yr haul ganol dydd.
Fel y dywedodd Olivia, roedd yn un o brofiadau gorau ei bywyd ac yn rhywbeth y byddai’n bendant wrth ei bodd yn ei wneud eto. “Roedd yn fwy arbennig fyth gan ein bod ni i gyd yn codi arian i’n hysbyty GIG lleol ar ôl i’n nain, Anita Pearson farw yn gynharach eleni. Byddai nain wedi bod wrth ei bodd yn plymio o’r awyr, a dyna pam y gwnaethom hynny er anrhydedd iddi”
Gwnaeth y grŵp ei ffordd i Faes Awyr Abertawe mewn cerbyd trydan a gefnogwyd gan Nathaniel Cars ar gyfer yr Elusen Iechyd.