
Mae ein prosiect Lle i Dyfu yn parhau i ddatblygu a thyfu.
Rydym wrth ein bodd bod Urban- Vertical CIC wedi creu’r cyrsiau gweithdai celfyddydau a lles arloesol, cyfoethog canlynol sydd ar gael i’n cymunedau lleol – Dawnsio bola ar gyfer y Menopos, Ysgrifennu Caneuon er Lles, Y Grefft o Fwyta’n Iach, Cylchoedd Bywyd Power Pedal, gan adeiladu partneriaethau newydd trwy bresgripsiynu cymdeithasol creadigol.


‘Rydw i wedi dod o hyd i rywbeth sy’n gwneud i mi deimlo fel menyw eto, mae mor synhwyrus. Byddwn wrth fy modd yn parhau i ddawnsio bola gan ei fod wedi bod yn wych ac yn rhan bwysig o fy wythnos, ac i fi yn unig!‘
Anna


‘Roedd yn anhygoel. Yr union beth sydd ei angen arnaf i gael fy hun yn ôl allan yn y byd a chwrdd â phobl newydd. Anhygoel.’
Tom
I gael rhagor o wybodaeth am weithdai’r celfyddydau, natur a bwyd ewch i www.urban-vertical.org.uk
Hoffem ddiolch i’n cyllidwyr, Cronfa Loteri’r Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Cyngor Celfyddydau Cymru
Pob cydnabyddiaeth llun Urban-Vertical CIC